Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Ymwybyddiaeth o glefyd Hepatitis C

Dyddiad: Dydd Mercher 16 Mai 2018

Amser: 12.00 - 14.30

Lleoliad: Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Cymru wedi ymrwymo i chwarae ei rhan yn y broses o ddileu hepatitis C (HCV), firws a gludir yn y gwaed ond bellach y gellir ei wella, a hynny fel rhan o nod y DU i gael gwared ar y firws erbyn 2030. Amcangyfrifir bod 12,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda hepatitis C, ond bod tua hanner ohonynt heb gael diagnosis. Er mwyn dileu HCV, mae'n hanfodol ein bod yn dod o hyd i'r rhai nad ydynt yn ymwybodol bod ganddynt y firws. Bydd digwyddiad galw heibio AbbVie heddiw yn darparu gwybodaeth ymhlith Aelodau'r Cynulliad ynghylch y ffactorau risg llai adnabyddus sy'n gysylltiedig â firws HCV, a hynny drwy ddefnyddio stondin rhyngweithiol a gwybodaeth wedi'i hargraffu. Dangoswch eich cefnogaeth i ymrwymiad Cymru i ddileu HCV drwy lofnodi ein haddewid i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd y gwaith o brofi.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr