Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Taith tua’r 50 – Gŵyl Bro Morgannwg

Dyddiad: Dydd Mercher 9 Mai 2018

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Gŵyl Bro Morgannwg yw’r unig ŵyl gerddoriaeth glasurol yn y DU ar gyfer cerddoriaeth cyfansoddwyr byw. Am yn agos i hanner canrif, mae polisi artistig pwerus ac unigryw’r Ŵyl yn golygu bod ganddi gysylltiadau â llawer o gyfansoddwyr, ensembles a churaduron yng Nghymru, y DU ac o amgylch y byd, gan ennill cyfeillion lu ar y ffordd. Mae’n fwriad gennym wahodd y cyfeillion hynny i'n helpu i hyrwyddo ein gwaith mewn blwyddyn arbennig o ddathlu: ‘Taith tua’r 50’. Bydd ‘Taith tua’r 50’ yn ddathliad cenedlaethol a rhyngwladol dros 12 mis o waith yr Ŵyl, yn cynnwys y 50fed Ŵyl ym mis Mai 2018 a hanner canmlwyddiant yr Ŵyl ym mis Mai 2019. Bydd y derbyniad arbennig ar 9 Mai 2018 yn agor yr Ŵyl a nodi cychwyn y ‘Daith tua’r 50’.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr