Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio arddangosfa Etifeddiaeth y Cymoedd

Dyddiad: Dydd Llun 26 Mawrth 2018

Amser: 12.00 - 14.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Arddangosfa o waith myfyriwr Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Gwent, Crosskeys. Gofynnwyd i'r myfyrwyr greu archif o ffotograffau dogfennol lleol sy'n eistedd i fynd ochr yn ochr ag 'Archif y Cymoedd'. Cafodd y myfyrwyr ddewis o blith amrywiaeth o themâu (diffeithwch diwydiannol, adfywio, pobl, y gymdeithas leol, argraff o dref, gwagleoedd) o ran dogfennu'r rhannau hyn o dde Cymru. Mae'r delweddau a grewyd yn agoriad llygaid ac yn weledol ddeinamig. Mae ffotograffau'r myfyrwyr yn canolbwyntio ar elfennau naturiol ac elfennau gwneuthuredig yn eu hardal leol, gan sylwi ar elfennau gwledig, dynol, trefol a diwydiannol, yn ogystal â dogfennu'r gymdeithas a newid.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr