Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio'r llyfr Rocking the boat

Dyddiad: Dydd Iau 8 Mawrth 2018

Amser: 12.30 - 14.00

Lleoliad: Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Y Menywod Cymreig fu'n Hyrwyddo Cydraddoldeb 1840 - 1990 - Mae “Rocking the Boat' gan yr Athro Angela John yn canolbwyntio ar saith o fenywod Cymreig a oedd yn gwrthwynebu'r sefyllfa arferol yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Mae'r traethodau hyn yn ymchwilio yn feirniadol i rwsytrau a llwyddiannau anodd menywod a giciodd yn erbyn y tresi dros gyfnod o 150 mlynedd, gan yn herio disgwyliadau ynghylch sut roedd menywod yn byw eu bywydau yn y ddwy ganrif ddiwethaf, ac yn codi materion yn ymwneud â rhyw a chenedligrwydd. Mae'r menywod y cyfeirir atynt yn cynnwys y meddyg arloesol a'r hyrwyddwr achosion blaengar, Frances Hoggan, y nofelydd o'r ugeinfed ganrif Menna Gallie, hyrwyddwyr cydraddoldeb i fenywod y Fonesig Rhondda ac Edith Picton-Turbervill, Myvanwy ac Olwen Rhs, a Margaret Wynne Nevinson.

Agored i’r cyhoedd: Bydd presenoldeb yn y digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig, ond bydd y Senedd a'r Pierhead ar agor i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr