Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Gweithio gyda choetiroedd Cymru
Dyddiad: Dydd Mawrth 27 Chwefror 2018
Amser: 10.00 - 15.00
Lleoliad: Pierhead
Disgrifiad: Mae Coed Cadw/Woodland Trust yn cynnal gweithdy a thrafodaethau ynghylch cynlluniau ymarferol ar gyfer coetiroedd Cymru. Mae’r sefydliad yn annog rhanddeiliaid ym maes rheoli tir a rhanddeiliaid o gyrff cyhoeddus, ynghyd ag Aelodau Cynulliad, i gyfrannu at y drafodaeth honno, a hynny er mwyn nodi arferion da, partneriaethau a thueddiadau ar gyfer y dyfodol.
Agored i’r cyhoedd: Aelodau’r Cynulliad, ac yn benodol, aelodau o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Staff coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhanddeiliaid o’r sector coetiroedd. Rhanddeiliaid o’r sector ffermio, y sector defnydd tir a sector yr amgylchedd. O ran y sesiynau trafod agored ar faterion allweddol, bydd y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd (adeilad y Pierhead). Fodd bynnag, bydd y grwpiau trafod a gynhelir yn yr ystafelloedd seminar ar gyfer gwahoddedigion yn unig.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr