Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dathlu dwy ganrif ers geni Bahá'ulláh – sylfaenydd y ffydd Bahá'í

Dyddiad: Dydd Mawrth 9 Ionawr 2018

Amser: 17.30 - 19.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Derbyniad i ddathlu dwy ganrif ers geni Bahá'ulláh, sylfaenydd y ffydd Bahá'í, gyda pherfformiad theatr a gomisiynwyd yn arbennig, o’r enw ‘Births’, sy’n cyfuno adrodd straeon ag arddangosfa hollgynhwysol, sy’n cynnwys cynllunio tecstilau, ffilm, ffotograffiaeth, celf synau a cherddoriaeth fyw. Mae’r cyflwyniad wedi’i seilio ar fywyd Bahá'ulláh ac mae’n daith o’n hamgylchiadau pan fyddwn ni’n cael ein geni, drwy’r holl enedigaethau sy’n rhan o’n bywydau, gan ystyried ein safbwyntiau, ein dewisiadau, ein perthnasau ac, yn y pen draw, gweledigaeth o undod a photensial ar gyfer y blaned, Cymru, y rhai sy’n annwyl i ni a’n bywydau.

Agored i’r cyhoedd: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr