Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Caethwasiaeth Fodern

Dyddiad: Dydd Mercher 31 Ionawr 2018

Amser: 11.00 - 13.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae Joyce Watson, yr Aelod Cynulliad, a Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, yn cynnal digwyddiad ar y cyd i sicrhau bod lleisiau goroeswyr a dioddefwyr caethwasiaeth fodern yn cael eu clywed, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn hyrwyddo’r hyn sy’n digwydd i helpu goroeswyr a dioddefwyr y troseddau ofnadwy hyn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w hatal o fewn ein cymunedau.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr