Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dathliad Dydd Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad: Dydd Mercher 25 Hydref 2017

Amser: 17.30 - 19.45

Lleoliad: Pierhead

Disgrifiad: Ynghyd â chynrychiolwyr o’r Brifysgol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymuned Caerdydd, mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ei gorffennol, presennol a dyfodol drwy ddod â dathliadau Diwrnod ei Sylfaenwyr i Gaerdydd a'i adeilad eiconig y Pierhead. Mae Diwrnod y Sylfaenwyr yn ddathliad blynyddol sy'n nodi sut mae’r Brifysgol wedi bod yn creu hanes ers yr 1850's, pan gododd grŵp bach o wladgarwyr, dan arweiniad Hugh Owen, Cymro Llundain, ddigon o arian drwy danysgrifiad cyhoeddus a phreifat, i sefydlu coleg statws prifysgol yng Nghymru.

Agored i’r cyhoedd: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr