Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Digwyddiad i ddathlu’r cyswllt cymunedol rhwng Cymru ac Affrica
Dyddiad: Dydd Mawrth 27 Mehefin 2017
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Pierhead
Disgrifiad: Mae Prosiect Garddio Marchnad Kawtal, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi cael effaith gadarnhaol ar lawer o fywydau. Drwy ymdrechion y rheini yng nghymunedau Llanedeyrn, Caerdydd a Gorom Gorom, Burkina Faso maent wedi bod yn hanfodol yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a chyfrannu at gyflawni’r Nodau Byd-eang. Mae Ymddiriedolaeth Partneriaeth Acacia yn manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob noddwr a phartner y prosiect am eu hymdrechion a’u cydweithrediad yn cyflwyno’r prosiect llwyddiannus.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr