Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio llinll gymorth Action on Elder Abuse Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 20 Mehefin 2017

Amser: 12.30

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Hoffai Action on Elder Abuse Cymru eich gwahodd i ymuno â ni i lansio ein llinell gymorth ddwyieithog i gefnogi dioddefwyr camdriniaeth yng Nghymru. Gan ddatblygu ar lwyddiant ein Llinell Gymorth Elder Abuse Response ledled y DU sydd wedi’i sefydlu’n dda, mae AEA Cymru yn lansio llinell gymorth ddwyieithog er mwyn ehangu’r gwasanaeth amhrisiadwy hwn yng Nghymru. Bydd pobl yng Nghymru yn gallu cael cymorth a chyngor cyfrinachol gan swyddogion gwybodaeth lleol drwy ein gwasanaeth rhadffôn. Mae ein llinell gymorth ar gael i’r henoed, teuluoedd a ffrindiau, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n poeni am niweidio a cham-drin person hŷn. Mae’n bleser gennym lansio’r digwyddiad hwn yn y Senedd, wedi’i noddi gan Julie James AC. Bydd y digwyddiad yn cynnwys sawl siaradwr a fydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd y gwasanaeth hwn a bydd cyfleoedd i rwydweithio yn ogystal â stondinau gwybodaeth sefydliadau ategol. Darperir cinio bwffe.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr