Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansiad Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith

Dyddiad: Dydd Mawrth 16 Mai 2017

Amser: 18.00 - 19.30

Lleoliad: Pierhead

Disgrifiad: Mae Comisiynydd y Gymraeg yn Gadeirydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn 2016-17. Amcan y Gymdeithas yw cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf, fel a ganlyn: Rhannu profiad a chyfnewid gwybodaeth am arferion gorau; Cynorthwyo neu gynghori ar sefydlu swyddfeydd Comisiynwyr Iaith; Hwyluso’r arfer o gyfnewid adnoddau, ymchwil a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol; Cydweithredu gyda sefydliadau tebyg sy’n gweld gwerth mewn hybu ac amddiffyn hawliau ac amrywiaeth ieithyddol. Bydd y gynhadledd yn gyfle i'r Comisiynwyr ddod ynghyd i rannu eu profiadau ac i gyfnewid gwybodaeth â'i gilydd ac ag eraill yng Nghymru sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac ieithoedd eraill. Prif themâu'r Gynhadledd yw technoleg gwybodaeth a chynllunio'r gweithlu. Mae amcanion y Gynhadledd yn gwbl gydnaws ag amcan y Cynulliad i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog ac yn benodol yn canolbwyntio ar ddau o'r prif feysydd sy'n rhan o Gynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, sef: buddsoddi’n sylweddol mewn technoleg fel ffordd o drawsnewid y gwasanaethau dwyieithog a ddarperir wrth sicrhau gwerth am arian; -datblygu sgiliau a hyder staff y Cynulliad i ddefnyddio’u Cymraeg;

Agored i’r cyhoedd: Cynhelir y digwyddiad y tu allan i’n horiau agor arferol felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr