Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Trychineb cudd Porthcawl

Dyddiad: Dydd Llun 24 Ebrill 2017 i ddydd Llun 8 Mai 2017

Lleoliad: Senedd Oriel Gallery

Disgrifiad: Arddangosfa’n dweud hanes trychineb yr SS Samtampa, un o’r Liberty Ships, a bad achub y Mwmbls, Edward Prince of Wales, ar 23 Ebrill 1947. Hwyliodd y Samtampa ar draws y sianel mewn corwynt ac fe drawodd y creigiau yn Nhrwyn y Sger, Porthcawl. Ymdrechodd bad achub y Mwmblws i achub y llongwyr ond collwyd y llong a’r bad achub a phob un o’r llongwyr. Bu farw 47 i gyd, a hynny oherwydd iddynt fygu ar y 600 tunnell o danwydd trwm o’r tanciau a ddrylliwyd. Bydd yr arddangosfa’n coffáu’r trychineb hwn a ddigwyddodd yn Ne Cymru 70 mlynedd yn ôl, ond nad oes prin sôn amdano.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr