Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Etifeddiaeth y Cymoedd
Dyddiad: Dydd Sadwrn 25 Mawrth 2017 i ddydd Gwener 31 Mawrth 2017
Lleoliad: Oriel y Senedd
Disgrifiad: Arddangosfa o waith myfyriwr Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Gwent, Crosskeys. Gofynnwyd i’r myfyrwyr greu archif o ffotograffau dogfennol lleol sy’n eistedd i fynd ochr yn ochr ag ‘Archif y Cymoedd’. Cafodd y myfyrwyr ddewis o blith amrywiaeth o themâu (diffeithwch diwydiannol, adfywio, pobl, y gymdeithas leol, argraff o dref, gwagleoedd) o ran dogfennu’r rhannau hyn o dde Cymru. Mae’r delweddau a grëwyd yn agoriad llygaid ac yn weledol ddeinamig. Mae ffotograffau’r myfyrwyr yn canolbwyntio ar elfennau naturiol ac elfennau gwneuthuredig yn eu hardal leol, gan sylwi ar elfennau gwledig, dynol, trefol a diwydiannol, yn ogystal â dogfennu’r gymdeithas a newid.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr