Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Tapestri Brynbuga
Dyddiad: Dydd Llun 20 Chwefror 2017 i ddydd Sul 5 Mawrth 2017
Lleoliad: Senedd Oriel Gallery
Disgrifiad: Cychwynnwyd y syniad i greu Tapestri Brynbuga gan y grefftwraig leol Margaret Turner i fynegi rhywfaint o harddwch Brynbuga a’r cyffiniau. Dyluniwyd y tapestri gan yr artist lleol Susie Martin ac fe’i goruchwyliwyd gan yr arbenigwraig pwytho Sarah Windrum. Mae’r tapestri yn 6 throedfedd wrth 9 troedfedd ac mae’n wahanol i waith tapestri arferol oherwydd iddo gael ei wau â phum edefyn o wlân oedd yn cynnwys hyd at bum lliw gwahanol ar bob nodwyddaid. Drwy hyn, cafwyd miloedd o liwiau i wneud i’r tapestri belydru. Cafodd ei bwytho gan lawer o wirfoddolwyr lleol dros oddeutu wyth mlynedd.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr