Agenda item
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd, Dydd Llun, 27 Ebrill 2020 10.00 (Item 3.)
- Gwybodaeth gefndir i eitem 3.
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu
a Sicrwydd
3.1
Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad,
a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am waith llywodraethu a
sicrwydd diweddar, gan gynnwys ymgysylltiad helaeth â threfniadau cynllunio
parhad busnes y Comisiwn mewn perthynas â'r pandemig Covid-19 diweddar. Tynnodd
sylw at y meysydd cynnydd a ganlyn:
·
paratoi drafft cyntaf yr Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2019-20, a oedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
yn y cyfarfod hwn;
·
cwblhau'r adolygiad archwilio
mewnol o seiberddiogelwch, a ddosbarthwyd y tu allan i’r Pwyllgor, ac a
gofnododd raddfa sicrwydd cymedrol;
·
cwblhau'r archwiliad o lywodraethu
prosiectau, a fyddai'n cael ei rannu â'r Pwyllgor yn fuan ac a oedd wedi
cofnodi graddfa sicrwydd cymedrol hefyd;
·
gwaith ar adolygiad o gydymffurfiad
â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol a oedd wedi, yn sgil argyfwng Covid-19,
gweithredu dull gwahanol i’r hyn a gynlluniwyd. Roedd hyn wedi cynnwys
trafodaethau gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi lle’r oedd
yn gallu cael sicrwydd a thystiolaeth dda o gydymffurfiaeth, gan gynnwys drwy
Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Comisiwn a Chomisiynydd y Gymraeg. Byddai
papur yn ymdrin â chanfyddiadau'r adolygiad yn cael ei rannu â'r Pwyllgor maes
o law: ac
·
roedd Victoria Paris wedi cwblhau’r
arholiadau Archwilio Mewnol Ardystiedig yn llwyddiannus.
3.2
Eglurodd Gareth, oherwydd yr
anawsterau sy’n codi o ganlyniad i weithio o bell, y byddai'r archwiliad
arfaethedig o’r Gwasanaeth Ymchwil yn wynebu oedi a bod ystyriaeth bellach yn
cael ei rhoi o ran ymarferoldeb cynnal yr archwiliad o dreuliau’r Aelodau ar
gyfer 2019-20.
3.3
Holodd aelodau'r Pwyllgor am
adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar drefniadau Gwrth-dwyll yn y sector
cyhoeddus yng Nghymru a chytunodd swyddogion i ddosbarthu hyn.
3.4
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am y
wybodaeth ddiweddaraf a chroesawodd aelodau'r Pwyllgor ei ddull pragmatig o
flaenoriaethu gwaith, o ystyried yr amgylchiadau.
3.5
Mewn ymateb i gwestiynau gan Ann am
effaith gohirio'r archwiliad o dreuliau’r Aelodau ac a oedd datrysiadau
technolegol ar waith i liniaru hyn, dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor nad oedd
hyn yn bosibl ar hyn o bryd oherwydd y broses sy’n gysylltiedig. Dywedodd hefyd
fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng Archwilio Cymru a chydweithwyr yn y tîm
Cymorth busnes i'r Aelodau i fod mewn sefyllfa
i roi sicrwydd minimol ar gyfer 2019-20. Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith y
byddai'r briff arfaethedig ar dreuliau’r Aelodau yn helpu i roi mwy o
ddealltwriaeth i aelodau'r Pwyllgor o ran y prosesau sydd ar waith.
3.6
Mewn perthynas â chwestiynau am y
defnydd o dechnoleg, gofynnodd Aled am eglurhad ar y sail resymegol dros y
defnydd amlwg o feddalwedd fideogynadledda Zoom yn lle technolegau eraill sydd
ar gael ar y farchnad. Mewn ymateb, dywedodd Dave a Manon y dewiswyd Zoom gan
ei fod yn gallu hwyluso'r rhwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth
cyfieithu ar y pryd ar gyfer busnes swyddogol y Cynulliad. Roedd yn cynnwys
nodweddion defnyddiol eraill hefyd, gan gynnwys y gallu i ddangos nifer uwch o
gyfranogwyr ar y sgrin na llwyfannau eraill.
3.7
Wrth ymateb i geisiadau am
ddiweddariad ar yr offer camera a gafodd ei ddwyn yn ystod 2018-19, esboniodd
Gareth y byddai hyn yn cael ei drafod yn yr adolygiad arfaethedig o Asedau
Sefydlog a fyddai'n canolbwyntio ar ddiogelu asedau ac yn cynnwys cyfraniad gan
y Pennaeth Diogelwch. Byddai manylion yr adolygiad hwn yn cael eu rhannu â'r
Pwyllgor maes o law ond cytunodd Gareth i ddarparu manylion pellach am yr
amgylchiadau yn ymwneud â'r mater hwn i aelodau'r Pwyllgor yn y cyfamser.
Camau
gweithredu:
·
(3.3)
Gareth i ddosbarthu adroddiad Archwilio Cymru ar drefniadau Gwrth-dwyll yn y
sector cyhoeddus yng Nghymru.
·
(3.7)
Gareth i rannu gwybodaeth am yr amgylchiadau yn ymwneud â’r offer camera a
gafodd ei ddwyn