Agenda item

P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Cyllid i ofyn sut mae cytundebau fframwaith bwyd a diod presennol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn galluogi ac yn annog y sector cyhoeddus i gynnwys dewisiadau ar eu bwydlenni dyddiol, sy’n addas i figaniaid, ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i adolygu canllawiau statudol ar gyfer bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir, o ran y gofynion i gynnwys dewisiadau ar eu bwydlenni sy’n addas i'r rhai sy'n dilyn diet figan.

 

Dogfennau ategol: