Agenda item

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai

Sarah Rhodes, Pennaeth y Gangen Ddigartrefedd, Adran Polisi Tai

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

        Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

        Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi Tai

        Sarah Rhodes, Pennaeth y Gangen Digartrefedd, yr Is-adran Polisi Tai

 

2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gadarnhau a oes ganddynt ffigurau ar fenter yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai i gwrdd â charcharorion ar ôl eu rhyddhau i'w cyfeirio at wasanaethau priodol. Cytunodd hefyd i nodi a yw'r fenter wedi arwain at ostyngiad yn nifer y carcharorion sy'n dychwelyd i'r strydoedd ar ôl eu rhyddhau ac yna'n dychwelyd i'r carchar.

 

Dogfennau ategol: