Agenda item

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth:

Cofnodion:

6.2     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

6.3     Cytunodd y Pwyllgor:

·         i ofyn am ffigyrau ar lefelau staffio a gwybodaeth yn ymwneud â rheoli traffig a threfniadau gwydnwch gan Asiantau Cefnffyrdd;

·         gofyn am wybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau cefnffyrdd mawr sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ei ddull o flaenoriaethu cynlluniau yn y dyfodol, a mwy o fanylion am wariant Asiantau Cefnffyrdd, rhaglenni gwaith a chyllidebau yn y dyfodol;

·         ysgrifennu at Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) i ofyn am wybodaeth am reoli digwyddiadau a defnyddio sgriniau; ac

·         ysgrifennu at Highways England i ofyn am wybodaeth am ei ddull o gynnal a gwella'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn Lloegr, gan gynnwys manteision disgwyliedig y strwythur a'r dull gweithredu newydd, a sut y bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd cyllid.

 

6.4     Cytunodd y Gwasanaeth Ymchwil i ddarparu eglurhad ar goridorau'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) yng Nghymru a'r DU a gwybodaeth am Highways England.

 

 

 

Dogfennau ategol: