Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad
Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad.
Gwybodaeth ynghylch Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad
Cafodd y Pwyllgor
hwn o’r Pedwerydd
Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed
Cynulliad
Cylch Gwaith Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus oedd ystyried y materion llywodraethiant ac atebolrwydd mewn
perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan gynnwys:
- cynghori’r Cynulliad ynghylch penodi archwilwyr i
edrych ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru;
- ystyried amcangyfrif blynyddol Archwilydd Cyffredinol
Cymru ac adrodd yn ei gylch i’r prif Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus;
- ystyried cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru;
- ystyried materion llywodraethiant ac atebolrwydd
eraill sy’n ymddangos mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru;
- ystyried materion sy’n ymwneud ag enwebu unigolion
i’w penodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei ddiddymu
ar 20 Gorffennaf 2012.
Sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 17.17 gan:
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Y
Pedwerydd Cynulliad)
Trawsgrifiad
cyfarfodydd (Y Pedwerydd Cynulliad)
Aelodaeth
Gellir gweld
rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad isod:
- Mike Hedges (3 Hydref 2011 – 20 Gorfennaf 2012)
- Darren Millar (3 Hydref 2011 - 20 Gorfennaf 2012)
- Aled Roberts (3 Hydref 2011 -20 Gorfennaf 2012)
- Lindsay Whittle (2 Ebrill 2012 -20 Gorfennaf 2012)
- Leanne Wood (3 Hydref 2011 -28 Mawrth 2012)