Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad

Cafodd y Pwyllgor hwn o’r Pedwerydd Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed Cynulliad

 

Cylch Gwaith Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oedd ystyried y materion llywodraethiant ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan gynnwys:

 

  • cynghori’r Cynulliad ynghylch penodi archwilwyr i edrych ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru;
  • ystyried amcangyfrif blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ac adrodd yn ei gylch i’r prif Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus;
  • ystyried cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru;
  • ystyried materion llywodraethiant ac atebolrwydd eraill sy’n ymddangos mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru;
  • ystyried materion sy’n ymwneud ag enwebu unigolion i’w penodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei ddiddymu ar 20 Gorffennaf 2012.

 

Sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 17.17 gan:

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Y Pedwerydd Cynulliad)

 

Trawsgrifiad cyfarfodydd (Y Pedwerydd Cynulliad)

 

Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:

  • Mike Hedges (3 Hydref 2011 – 20 Gorfennaf 2012)
  • Darren Millar (3 Hydref 2011 - 20 Gorfennaf 2012)
  • Aled Roberts (3 Hydref 2011 -20 Gorfennaf 2012)
  • Lindsay Whittle (2 Ebrill 2012 -20 Gorfennaf 2012)
  • Leanne Wood (3 Hydref 2011 -28 Mawrth 2012)