Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwesitynau 1 - 6 ac 8 – 14. Cafodd cwestiynau 1, 2 a 3 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 1, 2, 3, 5 a 13 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. Cafodd cwestiynau 7 a 15 eu tynnu yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.13 Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4937 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru; 2. Yn nodi’r rhan effeithiol y gall rhyddhad ardrethi busnes ei chwarae i ysgogi economïau lleol a gwella cyfleoedd cyflogaeth; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 y flwyddyn, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol hyd at £15,000, er mwyn hybu creu cyfoeth a hybu cyflogaeth. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi’r canlynol yn ei le: Yn nodi bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Ardrethi Busnes yn ystyried materion sy’n ymwneud â pholisi Ardrethi Busnes yng Nghymru. Bydd y Grŵp yn rhoi adroddiad yn fuan. [os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hadolygiad o ardrethi busnes yn rhoi sylw i: a) y sefyllfa lle mae gwella eiddo sy’n achosi cynnydd mewn gwerth yn arwain at gynnydd yn ardrethi busnes y busnes hwnnw; b) y cynnydd enfawr mewn ardrethi busnes pan fydd gwerthoedd yn cynyddu; c) y swyddogaeth sydd gan awdurdodau lleol o ran casglu a chadw ardrethi busnes; d) posibilrwydd ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i ragor o gyfleusterau cymunedol; ac e) a fyddai Cymru yn elwa o fabwysiadu’r un trefniadau cyfrifyddu â’r rheini yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu popeth cyn ‘er mwyn’ a rhoi yn ei le: ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi llawn i bob busnes sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 y flwyddyn, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol hyd at £18.000’. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.00. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4937 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru; 2. Yn nodi’r rhan effeithiol y gall rhyddhad ardrethi busnes ei chwarae i ysgogi economïau lleol a gwella cyfleoedd cyflogaeth; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 y flwyddyn, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol hyd at £15,000, er mwyn hybu creu cyfoeth a hybu cyflogaeth.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi’r canlynol yn ei le: Yn nodi bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Ardrethi Busnes yn ystyried materion sy’n ymwneud â pholisi Ardrethi Busnes yng Nghymru. Bydd y Grŵp yn rhoi adroddiad yn fuan. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4937 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru; 2. Yn nodi’r rhan effeithiol y gall rhyddhad ardrethi busnes ei chwarae i ysgogi economïau lleol a gwella cyfleoedd cyflogaeth; a 3. Yn nodi bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Ardrethi Busnes yn ystyried materion sy’n ymwneud â pholisi Ardrethi Busnes yng Nghymru. Bydd y Grŵp yn rhoi adroddiad yn fuan.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4938 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran sicrhau pwerau datganoledig ychwanegol yn dilyn y refferendwm llwyddiannus yn 2011; 2. Yn cydnabod y gefnogaeth eang ar gyfer rhagor o ddatganoli; a 3. Yn edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau o ran datganoli pwerau, gan gynnwys cyfrifoldeb ariannol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 1: ‘, ond yn
gresynu wrth fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i ddefnyddio potensial llawn y pwerau a roddwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol
o ganlyniad i’r refferendwm yn 2011 ers yr etholiad
ym mis Mai 2011’; Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt
3, dileu popeth ar ôl ‘Yn
edrych ymlaen at’ a rhoi yn ei
le ‘gael argymhellion Comisiwn Silk, yn dilyn ei adolygiad
helaeth o faterion ariannol yng Nghymru.’ Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlwyd gan lywodraeth y DU i edrych ar ddatblygiad
pellach o ran datganoli pwerau gan gynnwys
cyfrifoldeb ariannol. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r
arolwg a gyhoeddwyd gan BBC Cymru / ICM sy’n dangos bod y rhan fwyaf o bobl yng
Nghymru yn cefnogi rhyw fath
o bwerau amrywio treth i Gymru. Gellir gweld
canlyniadau’r arolwg drwy fynd i: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.54. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4938 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran sicrhau pwerau datganoledig ychwanegol yn dilyn y refferendwm llwyddiannus yn 2011; 2. Yn cydnabod y gefnogaeth eang ar gyfer rhagor o ddatganoli; a 3. Yn edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau o ran datganoli pwerau, gan gynnwys cyfrifoldeb ariannol.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4939 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw am: a) cyflwyno cynllun gwarantu blaendal yng Nghymru i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf; b) defnyddio dulliau ariannu amgen yn weithredol fel bondiau ac adeiladu cartrefi newydd ar lefelau rhent gwahanol fel ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg presennol o ran tai fforddiadwy; c) rhaglen cartrefi gwag ledled Cymru i gynyddu nifer yr eiddo gwag sy’n dod yn ôl i gael eu defnyddio fel eiddo preswyl gan roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol i ddod ag eiddo gwag yn ôl i gael eu defnyddio; ac d) rhoi rhagor o bwerau i awdurdodau lleol i bennu cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu
dad-ddethol] Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi: a) mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhinweddau cynllun gwarant indemniad morgais er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf; b) mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pennu ffynonellau eraill o gyllid er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy; c) bydd y fenter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag "Troi Tai yn Gartrefi" yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o’u pwerau presennol i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag; d) bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu pwerau disgresiwn awdurdodau lleol i amrywio cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd; ac e) yr heriau a amlinellir yn y papur diweddar, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’r angen am gytundeb barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer bodloni anghenion tai pobl. 2. Yn credu y bydd Diwygiadau Lles arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith uniongyrchol ar dai fforddiadwy, yn arbennig i’r rhai ar incwm isel. Tynnwyd sylw at hyn mewn ymchwil diweddar gan y Sefydliad Tai Siartredig. Ceir gwybodaeth am "Troi Tai yn Gartrefi" drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/private/emptyhomes/housestohomes/?lang=cy Ceir y papur diweddar, "Cwrdd â’r Her Tai: Creu consensws ar gyfer gweithredu" a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/housingchallenge/?lang=cy Gellir gweld ymchwil y Sefydliad Tai Siartredig drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: Llywodraeth Cymru i osod targedau uchelgeisiol ar gyfer creu tai fforddiadwy, gan adeiladu ar lwyddiant y llywodraeth flaenorol. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â darparwyr tai sector preifat a thrydydd sector allweddol a chyllidwyr i gytuno ar Strategaeth Adfer Tai i Gymru a’i gweithredu. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:54. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4939 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw am: a) cyflwyno cynllun gwarantu blaendal yng Nghymru i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf; b) defnyddio dulliau ariannu amgen yn weithredol fel bondiau ac adeiladu cartrefi newydd ar lefelau rhent gwahanol fel ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg presennol o ran tai fforddiadwy; c) rhaglen cartrefi gwag ledled Cymru i gynyddu nifer yr eiddo gwag sy’n dod yn ôl i gael eu defnyddio fel eiddo preswyl gan roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol i ddod ag eiddo gwag yn ôl i gael eu defnyddio; a d) rhoi rhagor o bwerau i awdurdodau lleol i bennu cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi: a) mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhinweddau cynllun gwarant indemniad morgais er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf; b) mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pennu ffynonellau eraill o gyllid er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy; c) bydd y fenter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag "Troi Tai yn Gartrefi" yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o’u pwerau presennol i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag; d) bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu pwerau disgresiwn awdurdodau lleol i amrywio cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd; ac e) yr heriau a amlinellir yn y papur diweddar, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’r angen am gytundeb barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer bodloni anghenion tai pobl. 2. Yn credu y bydd Diwygiadau Lles arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith uniongyrchol ar dai fforddiadwy, yn arbennig i’r rhai ar incwm isel. Tynnwyd sylw at hyn mewn ymchwil diweddar gan y Sefydliad Tai Siartredig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4939 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhinweddau cynllun gwarant indemniad morgais er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf; b) mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pennu ffynonellau eraill o gyllid er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy; c) bydd y fenter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag "Troi Tai yn Gartrefi" yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o’u pwerau presennol i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag; d) bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu pwerau disgresiwn awdurdodau lleol i amrywio cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd; ac e) yr heriau a amlinellir yn y papur diweddar, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’r angen am gytundeb barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer bodloni anghenion tai pobl. 2. Yn credu y bydd Diwygiadau Lles arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith uniongyrchol ar dai fforddiadwy, yn arbennig i’r rhai ar incwm isel. Tynnwyd sylw at hyn mewn ymchwil diweddar gan y Sefydliad Tai Siartredig. 3. Yn nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.55. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4936 Mike Hedges
(Gorllewin Abertawe): Sut y Dylid Ariannu Cymru? Bydd pwnc y ddadl hon yn canolbwyntio ar y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa drethi y dylid eu datganoli i Gymru, yn ogystal â pha drethi sy’n diwallu’r meini prawf hynny. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.59. NDM4936 Mike Hedges (Gorllewin Abertawe): Sut y Dylid Ariannu Cymru? Bydd pwnc y ddadl hon yn canolbwyntio ar y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa drethi y dylid eu datganoli i Gymru, yn ogystal â pha drethi sy’n diwallu’r meini prawf hynny. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |