Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 265(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-6 ac 8. Cafodd cwestiynau 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
cwestiynau1, 2, 4-7 a 9. Cafodd cwestiynau 6 a 9 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 5 a 7
gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru): Pa
drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â'r adroddiadau y gallai gemau rygbi'r chwe gwlad fod ar gael ar sail
talu-wrth-wylio yn unig yn y dyfodol? (TAQ401) Gofyn i’r
Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Huw
Irranca-Davies (Ogwr): I
ba raddau yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys mandad y DU ar
gyfer y trafodaethau gyda'r UE? (TAQ402) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.06 Gofyn
i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa
drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â'r adroddiadau y
gallai gemau rygbi'r chwe gwlad fod ar gael ar sail talu-wrth-wylio yn unig yn
y dyfodol? Gofyn
i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Huw
Irranca-Davies (Ogwr): I
ba raddau yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys mandad y DU ar
gyfer y trafodaethau gyda'r UE? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.34 Gwnaeth
Mick Antoniw ddatganiad am - 35 mlynedd ers diwedd streic y glowyr. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru NDM7286 - David
Rees (Aberafan)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar
Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 12 Rhagfyr 2019. Er
gwybodaeth: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru ar 5 Chwefror 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 NDM7286 - David Rees (Aberafan) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar
Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2019. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal NDM7287 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; 1.
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi
cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r
Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019. 2.
Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n
gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal. 3.
Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant
yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi
bod mewn tri neu fwy o leoliadau. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol: a)
adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n
derbyn gofal; b)
cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i
lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu; c)
ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a d)
sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i
bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru. Adroddiad
Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant
2019 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod yna
resymau cymleth tu ôl i lefelau cynyddol o blant mewn gofal, ond yn credu fod y
disgwyliad sydd ar awdurdodau lleol i osod targedau er mwyn ateb y broblem yn
ddatrysiad arwynebol. Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu: a) mai llwybr
cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy’n
derbyn gofal a’u rhieni; b) na ddylai
cysylltiad gael ei leihau na’i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff
eu talu; ac c) gall cysylltiad
cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen. Gwelliant 3 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod fod pobl
ifanc sy’n gadael gofal ac a ddaw’n rhieni, hefyd yn wynebu’r risg o
wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol ailedrych ar bob achos plentyn mewn
gofal i chwilio am gefndir o wahaniaethu yn erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at
gadw eu plentyn mewn gofal. Gwelliant 4 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y dylai’r
ysgogiad elw gael ei ddileu o’r maes gofal plant ac nad cwmnïau preifat yw’r
dewis gorau i wasanaethu buddiannau plant Cymru yn y dyfodol. Gwelliant 5 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn mynnu bod plant
sy’n gwneud honiadau ynghylch camdrin mewn gofal yn cael eu cymryd o ddifrif ac
y cânt eiriolwr, a bod arbenigwr diogelu plant yn siarad â nhw mewn lle diogel
er mwyn trafod yr hyn â godwyd. Gwelliant 6 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod fod
ymchwiliadau o gwynion yn gwadu ffeithiau mewn adroddiadau asesu a derbyn mewn
cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal, fod yn gyfan gwbl annibynnol a heb
i’r cyngor sir y mae’r achwynwr yn cwyno amdano fod yn talu amdanynt. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.28 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7287 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; 1. Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r
maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar
Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019. 2. Yn nodi ymhellach bod
cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol
waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal. 3. Yn gresynu bod nifer y
plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd
diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o
leoliadau. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud y canlynol: a) adolygu cynlluniau
awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal; b) cynorthwyo awdurdodau
lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a
ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu; c) ymchwilio i gymorth
ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a d) sicrhau bod mynediad i
gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a
gwarcheidwad ledled Cymru.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau Bwyta NDM7288 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal
rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a
chefnogi teuluoedd a chyfeillion. 2.
Yn credu: a)
bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth
uchel; b)
bod gwellhad yn bosibl; c)
gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad. 3.
Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau
Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac
uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i
Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen. 4.
Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn
hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn. 5.
Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb
i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth. 6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl
randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth
Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn. Adolygiad
Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta - Tachwedd 2018 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu ymhellach
at yr amser i ddatblygu amseroedd aros am wasanaethau i oedolion a gwasanaethau
plant a amlinellir yn ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar
26 Medi 2019. Datganiad ysgrifenedig
- Adolygiad o Wasanaethau Anhwylderau Bwyta Cymru - Y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol - 26 Medi 2019 Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 6, ar ôl 'i
sicrhau' ychwanegu 'ar frys'. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7288 - Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Wythnos
Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8
Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a
chyfeillion. 2. Yn credu: a) bod anhwylderau bwyta yn
salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth uchel; b) bod gwellhad yn bosibl; c) gall teuluoedd a chyfeillion
chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad. 3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n
gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan
Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu
gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd
ei angen. 4. Yn credu y bydd grymuso a
chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r
uchelgais hwn. 5. Yn gresynu at y cyfnod
estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad
2018 o'r gwasanaeth. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod
argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu
gweithredu'n llawn. Adolygiad
Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta - Tachwedd 2018
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl NDM7289 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o
Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr. 2.
Yn credu na ddylid anfon unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i
unedau sy'n bell iawn o'u teulu. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
sicrhau digon o gapasiti cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl
yng Nghymru fel y gellir mynd ati'n radol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar
gontract allanol; b)
bod â chynllun ar gyfer ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw
mewn unedau yn Lloegr; c)
gosod gwaharddiad ar GIG Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag
adroddiadau gwael gan y Comisiwn Ansawdd Gofal; d)
sicrhau bod unedau y tu allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn
cydymffurfio â gofynion arolygu Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) sicrhau bod pellter
o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen
cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol b) sicrhau bod
trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau
yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad] Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) sicrhau bod holl
gleifion iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg a diogelwch lefel uchel yn cael eu
lleoli yng Nghymru oni bai mewn amgylchiadau eithriadol; b) sicrhau digon o
gapasiti ar gyfer cleifion mewnol diogelwch canolig a lefel uchel ar gyfer
gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir diddymu'r trefniadau ar
gyfer contractio gofal yn raddol; c) sicrhau bod
Arolygiaeth Iechyd Cymru a'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cydweithredu er mwyn i
unedau iechyd meddwl y tu allan i Gymru sy'n derbyn cleifion o Gymru
gydymffurfio â gofynion arolygu; d) cyflwyno
Uwch-swyddogion Cyfrifol ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a
lefel uchel Cymru er mwyn galluogi cydweithio rhwng Pwyllgor Gwasanaethau
Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd lleol sy'n canolbwyntio ar y claf; ac e) sicrhau bod yn
rhaid i gynlluniau cyfathrebu gael eu gosod ochr yn ochr â chynlluniau
triniaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru
er mwyn rheoli disgwyliadau'r claf, y teulu a'r clinigwyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7289 - Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r pryderon ynghylch
ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd
meddwl cleifion mewnol yn Lloegr. 2. Yn credu na ddylid anfon
unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i unedau sy'n bell iawn o'u
teulu. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) sicrhau digon o gapasiti
cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir
mynd ati'n raddol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar gontract allanol; b) bod â chynllun ar gyfer
ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw mewn unedau yn Lloegr; c) gosod gwaharddiad ar GIG
Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag adroddiadau gwael gan y Comisiwn
Ansawdd Gofal; d) sicrhau bod unedau y tu
allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn cydymffurfio â gofynion arolygu
Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) sicrhau bod pellter
o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen
cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol b) sicrhau bod
trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau
yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7289 - Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r pryderon ynghylch
ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd
meddwl cleifion mewnol yn Lloegr. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod pellter
o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen
cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol b) sicrhau bod
trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau
yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.26 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: |