Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes am fwriad y llywodraeth i gyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i ddadl ar Brexit gael ei chynnal fel yr eitem olaf o fusnes cyn y Cyfnod Pleidleisio heddiw. Bydd hyn yn disodli'r 'Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Brexit (45 munud)' sydd wedi'i dynnu'n ôl yn amodol ar dderbyn y cynnig i atal Rheolau Sefydlog.

 

Datganodd y Trefnydd ei bwriad i gyflwyno'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog a'r cynnig am ddadl cyn gynted â phosibl y bore yma. Yn dilyn hynny, bydd y Llywydd yn cyfleu'r dyddiad cau ar gyfer gwelliannau i Reolwyr Busnes.

 

Soniodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes, hefyd, am y newidiadau canlynol i fusnes yr wythnos hon:

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025 (45 Munud)

·         Dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 (0 munud) - gohiriwyd tan 6 Tachwedd

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2019 -

 

·         Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019 -

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ystyried ei egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais i'r Pwyllgor gwrdd y tu allan i'r amser a nodir ar yr amserlen yn ystod wythnos 21 Hydref.

 

 

6.

Y Cyfarfod Llawn

6.1

Pleidleisio drwy Ddirprwy

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i drafod â'u grwpiau a dychwelyd ato yn eu cyfarfod ar 12 Tachwedd.

 

 

6.3

Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.

 

 

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Roedd Reg Kilpatrick (Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol) yn bresennol yn y cyfarfod i roi diweddariad byr i'r Rheolwyr Busnes ar y gofynion tebygol ar Weinidogion fel rhan o weithgaredd Ymateb Parodrwydd Brexit arfaethedig Llywodraeth Cymru pe bai'r DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb ar 31 Hydref.  Roedd hyn yn cynnwys yr angen posibl am hyblygrwydd o ran eu hargaeledd i graffu yn y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau.