Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.   Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a diolchodd i staff Canolfan Adnoddau Cymunedol Acton am eu croeso a'u cymorth wrth drefnu'r cyfarfod.

 

2.   Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw, John Griffiths, Mike Hedges, Lynne Neagle, David Rees a Bethan Sayed.

 

3.   Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Weinidog i wneud datganiad yn sgil diweddglo’r cwêst i farwolaeth Carl Sargeant.

 

2.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Y Sector Gweithgynhyrchu yng Nghymru

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

 

Dickie Davis, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau Thematig a Sylfaenol

Gwenllian Roberts, Prif Swyddog Rhanbarthol Gogledd Cymru

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymadael â’r UE a Pholisi Economaidd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog o ran y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

 

Cytunodd swyddog y Prif Weinidog, Dickie Davis, i rannu â'r Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a James Hackett , Llywydd a Phrif Weithredwr, Ford Motor Company.

 

3.

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

 

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

Ni wnaed y cynnig.

 

5.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol

Cofnodion:

Ni wnaeth y Pwyllgor y cynnig i gyfarfod yn breifat i drafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol.