Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC.

 

(09:30-10:30)

2.

Briff technegol: Gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth trethi Cymru

Gareth McMahon, Cyfreithiwr y Llywodraeth

Andrew Hewitt, Trysorlys Cymru

Laura Fox, Trysorlys Cymru

Cofnodion:

2.1     Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio technegol gyda Gareth McMahon, Cyfreithiwr y Llywodraeth; Andrew Hewitt, Trysorlys Cymru; a Laura Fox, Trysorlys Cymru ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth trethi Cymru.

 

(10:30-10:45)

3.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Amcangyfrifon 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnwys yr adroddiad drafft.

 

(10:45-11:00)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Y dull o gynnal gwaith craffu

Papur 2 – Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Dull o graffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Trafododd y Pwyllgor y dull diwygiedig o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 a chytunodd ar y dull gweithredu.

 

(11:00-11:15)

5.

Dull o graffu ar ddeddfwriaeth sydd ar ddod

Papur 3 - Y dull o graffu ar ddeddfwriaeth sydd ar y gweill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Ystyriodd y Pwyllgor y papur ar y dull o graffu ar ddeddfwriaeth sydd ar ddod.

 

(11:15-11:35)

6.

Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 4 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig ar 27 Tachwedd 2019.