Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. |
|
(09.15-10.15) |
Sesiwn graffu ar TB Buchol gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a
Materion Gwledig Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol - Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd y tystion a ganlyn i’r cyfarfod: Lesley Griffiths AC,
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig; Christianne Glossop, y Prif
Swyddog Milfeddygol; Tim Render, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a Materion Gwledig;
a Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a’r Môr. 2.2
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ysgrifenedig yn amlinellu'r meini prawf
sydd ynghlwm wrth y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i farchnadoedd da
byw at ddibenion uwchraddio cyfleusterau sy'n darparu gwybodaeth am dda byw. 2.3
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar achosion o TB buchol o gymharu â maint
y fuches. |
|
(10.15-11.15) |
Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a
Materion Gwledig Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol - Llywodraeth
Cymru Tim Render, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
- Llywodraeth Cymru Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a’r Môr -
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn yn amlinellu’r 10 maes yn ei phortffolio
Gweinidogol lle ceir fframweithiau cyffredin anneddfwriaethol. 3.2
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn yn cynnwys gwybodaeth bellach am 'sbwriel
pysgodfeydd'. 3.3
Cytunodd y Gweinidog i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â'r Pwyllgor am roi’r
Cynllun Datblygu Gwledig ar waith. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6 Cofnodion: 4.1
Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6. |
||
(11.15-11.30) |
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3, gan nodi
materion allweddol i‘w trafod ymhellach gyda'r Gweinidog. |
|
(11.30-12.00) |
Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau
(Cymru) a chytunodd arno, yn amodol ar fân newid. |