Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd David Rowlands AC a etholwyd yn Aelod o'r Pwyllgor ar 12 Mehefin.

 

(09.30 - 09.45)

2.

Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau 2019-20

SoC(5)-08-19 – Papur 1 – Y Bwrdd Taliadau: Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Datganodd Andrew RT Davies AC fuddiant gan ei fod yn cyflogi ei wraig.

2.2 Trafododd yr Aelodau y Penderfyniad ar Gyflogau’r Aelodau a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau ynghylch cyflogi aelodau'r teulu.

(09.45 - 10.30)

3.

Trafod adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau Adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) a chytunwyd i drafod y mater eto yn y cyfarfod nesaf.

 

(10.30 - 11.00)

4.

Cod Ymddygiad - Adolygiad

SoC(5)-08-11 Papur 2 – Diwygiadau drafft i’r Cod Ymddygiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd a chytunodd yr Aelodau y newidiadau a awgrymwyd.

4.2 Bydd y Clerc yn paratoi adroddiad i'r Aelodau ei ystyried yn adlewyrchu'r diwygiadau a awgrymwyd i'r Cod Ymddygiad.