Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 216(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30
|
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 3 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Tai a
Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog
Addysg Bethan Sayed (Gorllewin De
Cymru): A wnaiff y Gweinidog ymateb
i faterion gweinyddol parhaus ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y newyddion
diweddar bod y Brifysgol saith mis yn hwyr yn cyhoeddi ei hadroddiad ariannol? Gofyn i Weinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth Caiff
y cwestiwn hwn ei ateb gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Andrew RT Davies (Canol
De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag Allied
Bakeries yng ngoleuni cyhoeddiad y cwmni y bydd yn atal y gwaith cynhyrchu yn
ei safle yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, gan roi 180 o swyddi mewn
perygl? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 Gofyn
i’r Gweinidog Addysg Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ymateb i faterion gweinyddol parhaus ym Mhrifysgol
Abertawe, gan gynnwys y newyddion diweddar bod y Brifysgol saith mis yn hwyr yn
cyhoeddi ei hadroddiad ariannol? Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth [Caiff
y cwestiwn hwn ei ateb gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth] Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u
cael gydag Allied Bakeries yng ngoleuni cyhoeddiad y cwmni y bydd yn atal y
gwaith cynhyrchu yn ei safle yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, gan roi 180 o
swyddi mewn perygl? |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.29. Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Dathlu 50
mlynedd o Sali Mali. Gwnaeth Mick Antoniw
ddatganiad am - Diwrnod Dyneiddiaeth y Byd (21 Mehefin 2019). Gwnaeth Vikki Howells
ddatganiad am - Mis Pride LHDT 2019 a dathlu 20 mlynedd ers Pride cyntaf
Caerdydd. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i ddirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 NDM7057 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn cytuno y dylai Rheoliadau’r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)
(Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019, a osodwyd
gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2019, gael eu dirymu. Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7057
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn
cytuno y dylai Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn
Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019, a osodwyd
gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2019, gael eu dirymu. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Dysgu Hanes Cymru NDM7068 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei ddysgu i
bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: NDM7068
Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes
Cymru yn cael ei ddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan. Cyd-gyflwynwyr Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ddeiseb P-05-869: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi NDM7076 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ddeiseb
‘P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi’ a
gasglodd 6,148 o lofnodion. P-05-869
Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.10 NDM7076
Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym
mhob polisi’ a gasglodd 6,148 o lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Brexit - Gadael yr Undeb Ewropeaidd NDM7071 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Cymru wedi
pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. 2. Yn gresynu na
wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, er gwaethaf sawl addewid gan
Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o ASau wedi pleidleisio i gychwyn
proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad hwnnw. 3. Yn gwrthod unrhyw
estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar ôl 31 Hydref 2019. 4. Yn nodi y gallai
gadael heb fargen leihau costau bwyd, dillad ac esgidiau yn sylweddol, ac y
bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y DU. 5. Yn penderfynu y
dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref 2019 oni bai bod
yr UE, o leiaf: a) yn cynnig cytundeb
masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a b) yn derbyn
trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd Iwerddon. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le: 1. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016. 2. Yn gresynu nad yw'r
Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eto. 3. Yn credu y dylid
rhoi canlyniad y refferendwm ar waith. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7071
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. 2.
Yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, er gwaethaf sawl
addewid gan Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o ASau wedi pleidleisio i
gychwyn proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad hwnnw. 3.
Yn gwrthod unrhyw estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar ôl 31 Hydref 2019. 4.
Yn nodi y gallai gadael heb fargen leihau costau bwyd, dillad ac esgidiau yn
sylweddol, ac y bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y DU. 5.
Yn penderfynu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref
2019 oni bai bod yr UE, o leiaf: a)
Yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a b)
Yn derbyn trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd Iwerddon Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwigio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu'r
cyfan a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis
Mehefin 2016. 2.
Yn gresynu nad yw'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eto. 3.
Yn credu y dylid rhoi canlyniad y refferendwm ar waith. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gan nad yw'r Cynulliad wedi derbyn y cynnig
heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y
cynnig felly ei Wrthod. |
|||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.50 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7069 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Tlodi yng Nghymru:
Beth sy'n ei achosi a beth y gellir ei wneud i'w liniaru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.52 NDM7069 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Tlodi yng Nghymru:
Beth sy'n ei achosi a beth y gellir ei wneud i'w liniaru. |