Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Gan fod John Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor, wedi ymddiheuro, gofynnodd y Clerc am enwebiadau i ethol Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Cafodd Dawn Bowden ei henwebu gan Leanne Wood ac fe’i hetholwyd.

(09:30 - 10:30)

2.

Ymchwiliad i eiddo gwag - sesiwn dystiolaeth 3

Shaheena Din, Rheolwr Prosiectau Cenedlaethol, Partneriaeth Cartrefi Gwag yr Alban

Andrew Lavender, Ymgynghorydd Prosiect, Cynllun No Use Empty

Brighid Carey, Rheolwr Prosiect: Dulliau cymunedol, Action on Empty Homes

Nigel Dewbery, Cyfarwyddwr Cyflawni Rhwymedigaethau a Gwasanaethau Gosod, E.ON

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Shaheena Din, Rheolwr Prosiectau Cenedlaethol, Partneriaeth Cartrefi Gwag yr Alban

·       Andrew Lavender, Ymgynghorydd Prosiect, Cynllun No Use Empty

·       Brighid Carey, Project Manager: Dulliau cymunedol, Action on Empty Homes

·       Nigel Dewbery, Cyfarwyddwr Cyflawni Rhwymedigaethau a Gwasanaethau

Gosod, E.ON

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion yn gofyn am ragor o wybodaeth am y modd y maent yn gweithio gyda pherchnogion cartrefi gwag, a hynny oherwydd prinder amser.

 

(10.40 - 11.35)

3.

Ymchwiliad i eiddo gwag - sesiwn dystiolaeth 4

Rebecca Jackson, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru

Matthew Kennedy, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi, Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Michelle Collins, Rheolwr Tîm Arbenigol, United Welsh

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Rebecca Jackson, Swyddog Polisi ac Ymchwil Shelter Cymru

·       Matthew Kennedy, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi, Sefydliad Tai

Siartredig Cymru

·       Michelle Collins, Rheolwr Tîm Arbenigol, United Welsh

 

(11.35 - 12.30)

4.

Ymchwiliad i eiddo gwag - sesiwn dystiolaeth 5

Douglas Haig, Is-gadeirydd, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl

Gavin Dick, Swyddog Polisi Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid

Ifan Glyn, Uwch-gyfarwyddwr Hyb, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Douglas Haig, Is-gadeirydd Cymdeithas Landlordiaid Preswyl

·       Gavin Dick, Swyddog Polisi Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid

·       Ifan Glyn, Uwch-gyfarwyddwr Hyb, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr

 

(12.30 - 12.35)

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd ynghylch rhwymedigaethau rhyngwladol sy’n rhwymo’r Deyrnas Unedig – 3 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd ynghylch rhwymedigaethau rhyngwladol sy’n rhwymo’r Deyrnas Unedig.

 

5.2

Gohebiaeth at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau – 4 Gorffennaf 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau.

 

(12.35)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.35 - 12.45)

7.

Ymchwiliad i eiddo gwag: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn eitemau 2,3 a 4

 

(12.45 - 13.00)

8.

Adroddiad ar y cyd gan y Pwyllgor Cyllid; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol - trafod yr ymatebion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i’r adroddiad ar y cyd gan y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.