Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/06/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan John Griffiths AC.

 

(09.30-10.20)

2.

Ymchwiliad i ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru - gwaith dilynol: sesiwn dystiolaeth 3

Yr Athro Lynda Warren, Athro Emeritws - Prifysgol Aberystwyth

Alan Terry, Blue Marine Foundation

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Lynda Warren, Athro Emeritws, Prifysgol Aberystwyth; ac Alan Terry, Blue Marine Foundation.

 

 

(10.20-11.10)

3.

Ymchwiliad i ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru - gwaith dilynol: sesiwn dystiolaeth 4

Dr Mary Lewis, Arweinydd Tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol - Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhian Jardine, Pennaeth Gwasanaeth Morol - Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Mary Lewis, Arweinydd Tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol, Cyfoeth Naturiol Cymru; a Rhian Jardine, Pennaeth Gwasanaeth Morol, Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

3.2 Cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i baratoi papur ar drafodaeth bwrdd rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr amgylchedd morol.

 

 

(11.20-12.20)

4.

Ymchwiliad i ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru - gwaith dilynol: sesiwn dystiolaeth 5

Gill Bell, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Emily Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gill Bell, Cyswllt Amgylchedd Cymru; ac Emily Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru.

 

4.2 Cytunodd Emily Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am reoli pysgod cregyn gan gynnwys dyraniadau cwota sefydlog.

 

(12.20-12.25)

5.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

5.2

Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Polisi Coedwigaeth

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitem 6

Cofnodion:

6.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitem 7.

 

5.3

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd - Dyddiadau cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Dogfennau ategol:

7.

Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Bil Amaethyddiaeth

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar un newid bach.