Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Carwyn Jones AC.

 

(09.30-11.00)

2.

Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol – Llywodraeth Cymru

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg - Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Am 10.00am, nododd y Pwyllgor funud o dawelwch er cof am y ddau unigolyn a gollodd eu bywydau yn y digwyddiad rheilffyrdd trasig ym Margam yr wythnos diwethaf.

2.1 Atebodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion ynghylch pa wyliau a gafodd arian eleni.

2.3 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol hefyd i ddarparu rhagor o fanylion am y rhaglen ddigidol e-sgol.

2.4 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu gwybodaeth am gynllun Camau a chyflwyno cynlluniau meithrin.

2.5 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i roi gwybod i ni am ddatblygiad y strategaeth Iaith Gymraeg newydd.

2.6 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion am y cwynion a gafwyd ynghylch Safonau’r Gymraeg.

 

 

(11.15-12.15)

8.

Minnau hefyd! - Ymchwiliad i rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol: sesiwn dystiolaeth gyda’r Farwnes Kay Andrews OBE

Barwnes Kay Andrews OBE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Farwnes Kay Andrews OBE yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth gydag Equity ynghylch yr angen i gynnal clyweliadau lleol ar gyfer cynyrchiadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau y papur.

 

4.2

Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd yr Aelodau y papur.

 

4.3

Llythyr at y Gweinidog Addysg ynghylch natur drosglwyddadwy sgiliau addysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd yr Aelodau y papur.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15-12.25)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ei sesiwn dystiolaeth ar 26 Mehefin a’r sesiwn dystiolaeth yng nghyfarfod heddiw. 

 

(12.25-12.30)

7.

Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru: trafodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Cynhaliodd yr Aelodau drafodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor.