Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, nid oedd unrhyw ymddiheuriadau

(09.15 - 10.30)

2.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 18 Gorffennaf.

(10.30 - 10.40)

3.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020 - 2021 – trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dull ar gyfer cyllideb ddrafft eleni. Byddai papur ar y dull yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 18 Gorffennaf.

(10.40 - 10.50)

4.

Diwygio'r cwricwlwm - adborth gan Aelodau o'r ymweliadau rapporteur

Cofnodion:

4.1 Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar ymweliadau yr aethant arnynt yn eu hetholaethau gyda’r bwriad o lywio sesiwn gyda'r Gweinidog Addysg sydd wedi’i drefnu ar gyfer 18 Medi.

(11.00 - 12.00)

5.

Lansio adroddiad y Pwyllgor ar Gyllido Ysgolion (drwy wahoddiad yn unig) (Ystafell Bwyllgora 5)