Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC; dirprwyodd Vikki Howells AC ar ei ran.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 11

Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd

Emma Gammon, Cyfreithiwr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Dirprwy Weinidog.

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:

  • Gwybodaeth am y cysylltiadau â rhieni, gan gynnwys manylion am y negeseuon a ddefnyddiwyd mewn perthynas â rhianta, cyn y cyswllt cyn-ysgol yn 3.5 oed yn Rhaglen Plant Iach Cymru;
  • Nodyn ar yr ymarfer mapio sy'n cael ei gynnal mewn perthynas ag argaeledd cymorth blynyddoedd cynnar i rieni, gan gynnwys manylion y broses fapio, amserlenni, a sut y caiff y canfyddiadau eu datblygu;
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru ar warediadau y tu allan i'r llys, gan gynnwys costau amcangyfrifedig;
  • Ffigurau sy'n ymwneud â pha mor aml y datgelir gwybodaeth 'heb euogfarn, a pha mor aml y disgwylir iddi gael ei datgelu;
  • Nodyn yn rhoi rhagor o fanylion am y trafodaethau â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) y cyfeiriodd Llywodraeth Cymru atynt mewn perthynas â'r Bil a datgelu gwybodaeth 'heb euogfarn; ac
  • Ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd isod:
    • Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Bil hwn yn amddiffyn y plant ieuengaf na allant leisio eu profiadau?
    • Pa asesiad a wnaed o ran a fydd y Bil hwn yn effeithio yn anghymesur ar fenywod, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed, o ystyried mai menywod yw'r prif roddwyr gofal mewn llawer o achosion?
    • Mae Asesiad Effaith Cydraddoldeb y Bil yn nodi: “Mae rhywfaint o dystiolaeth gyfyngedig y gall plant o rai grwpiau ethnig gael eu cosbi’n gorfforol yn amlach oherwydd tarddiad ethnig neu ddiwylliannol eu rhieni", “Mae rhieni o leiafrifoedd ethnig yn wynebu nifer o rwystrau gwahanol i fanteisio ar wasanaethau, gan gynnwys gwahaniaethu, rhwystrau iaith a diwylliannol a diffyg ymwybyddiaeth o wasanaethau a sut i gael gafael arnynt”, a bod teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr “yn amharod defnyddio gwasanaethau oherwydd ofn stigma a rhagfarn, diffyg ymddiriedaeth mewn darparwyr gwasanaethau, a sgiliau llythrennedd cyfyngedig o bosibl”. A all Llywodraeth Cymru amlinellu pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn yn ei barn hi, gan roi enghreifftiau ymarferol o sut y bydd yn lliniaru'r effeithiau posibl hyn?  

 

 

(10.30)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 Mewn perthynas â phapur i'w nodi 1, roedd Suzy Davies AC am nodi anhawster dadgyfuno achosion o gosb resymol fel achosion unigol oddi wrth achosion sy'n ymwneud â phatrymau ymddygiad ehangach.

 

3.1

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Mai ynghylch Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Ymateb CAFASS Cymru i'r pwyntiau penodol mewn perthynas â Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Adroddiad ymchwil ar ymwybyddiaeth y cyhoedd a barn am Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

(10:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 10.40)

5.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 

(10.50 - 11.50)

6.

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Caiff yr adroddiad drafft ei drafod eto yn y cyfarfod ar 26 Mehefin.

 

(11.50 - 12.30)

7.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol ar gyfer tymor yr hydref:

·         Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Addysg ar y cwricwlwm newydd fel rhan o waith craffu parhaus y Pwyllgor ar ddiwygio'r cwricwlwm;

·         Sesiwn unigol ar ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar, i gynnwys gwaith dilynol ar Dechrau'n Deg: allgymorth a materion sy'n codi wrth graffu ar y Bil Cyllido Gofal Plant;

·         Ymchwiliad byr i Hawliau Plant yng Nghymru  ;

·         Craffu ar y Gyllideb Ddrafft;

·         Ymchwiliad i Addysg heblaw yn yr ysgol neu mewn Unedau Atgyfeirio Disgyblion;

·         Sesiwn unigol ar wella ysgolion a chodi safonau; a

·         Gwaith dilynol parhaus ar ymrwymiadau presennol a chraffu ar adroddiadau blynyddol.

7.2 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth sydd ar gael am y rhaglen ddeddfwriaethol, gan gynnwys yr angen a ragwelir i gwblhau trafodion Cyfnod 2 o Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) os yw'n pasio Cyfnod 1.