Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC, dirprwyodd Jayne Bryant AC ar ei ran.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) – Sesiwn dystiolaeth 8

Cynrychiolwyr GIG Cymru

Dave Williams, Cyfarwyddwr yr Is-adran - Gwasanaethau Teulu a Therapi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Nicola Edwards, Pennaeth Diogelu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y GIG.

2.2 Cytunodd cynrychiolwyr y GIG i ddarparu nodyn ar ba wasanaethau cymorth ymyrraeth gynnar i deuluoedd sydd ar gael ym mhob Bwrdd Iechyd ledled Cymru. 

 

(10.45 - 11.45)

3.

Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 9

Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Jane Randall, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Jan Pickles, Aelod o'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.

 

(11.45 - 12.40)

4.

Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 10

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Coleg Nyrsio Brenhinol

Dr Lorna Price, cynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor Amddiffyn Plant canolog y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Dr Rowena Christmas, cynrychiolydd o Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu

Michelle Moseley, cynrychiolydd o Goleg Brenhinol y Nyrsys

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, y Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

 

5.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papur.

 

5.1

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Diweddariad Llywodraeth Cymru ar raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

Dogfennau ategol:

(12.40)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.40 - 12.45)

7.

Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth.