Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-11.30)

2.

Gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt, gwaith dilynol: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol

 

Mick Giannasi, Cadeirydd, Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol

Cath Broderick, Aelod panel lleyg, Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1        Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol.

2.2        Cytunodd Cadeirydd y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol i ddarparu manylion ar y diffiniad o “ddigwyddiadau difrifol” a ddefnyddir gan y tîm clinigol fel rhan o’i adolygiad ôl-weithredol.

 

(11.30)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Llythyrau gan Brif Weithredwr Interim Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1        Nododd y Pwyllgor y ddau lythyr.

 

3.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2        Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3        Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(11.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1        Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(11.30-11.40)

5.

Gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt gwaith dilynol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1        Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a thrafodwyd opsiynau craffu pellach. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd David Jenkins i drafod ei waith yn cefnogi Cadeirydd y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i sicrhau gwelliannau o ran arweinyddiaeth a llywodraethu corfforaethol i gyfarfod yn y dyfodol.

5.2        Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ar y gwahanol ffrydiau sy’n cefnogi’r broses ymyrraeth.

 

(11.40-12.00)

6.

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: Trafod yr adroddiad drafft (2)

Papur 5 – Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: adroddiad drafft (2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1        Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

(12.00-12.20)

7.

Blaenraglen waith

Papur 6 – Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1        Ystyriodd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref, a nifer o gynigion ar gyfer ymchwiliadau posibl yn y dyfodol. Gofynnodd y Pwyllgor i’r ysgrifenyddiaeth wneud rhywfaint o waith cwmpasu pellach a chytunodd i ystyriodd y mater eto yn nhymor yr hydref.

 

(12.20-12.30)

8.

Goblygiadau Brexit: fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Papur 7 – Goblygiadau Brexit: fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1        Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried fframweithiau polisi cyffredin ledled y DU a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael rhagor o fanylion am nifer o faterion i lywio unrhyw waith craffu y bydd y Pwyllgor am ei wneud yn y dyfodol.