Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(12.45 - 13.10)

1.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-20-19 Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd yr Aelodau i drafod yr adroddiad drafft diwygiedig y tu allan i'r Pwyllgor.

 

(13.10)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(13.10)

3.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ar FyNgherdynTeithio ac Addasiadau Tai ac ar y taliadau arbennig a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

3.1

Cynllun Llywodraeth Cymru i gynnig tocynnau bws rhatach i bobl ifanc – FyNgherdynTeithio: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Mehefin 2019)

Dogfennau ategol:

3.2

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (4 Mehefin 2019)

Dogfennau ategol:

3.3

Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (5 Gorffennaf 2019)

Dogfennau ategol:

3.4

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

(13.15 - 14.50)

4.

Ffordd Liniaru'r M4: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-20-19 Papur 2 – Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones - Cyfarwyddwr, Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Andy Falleyn - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r costau yr aed iddynt ar Ffordd Liniaru'r M4.

4.2 Cytunodd Andrew Slade i ddarparu'r canlynol:

·         Cyfanswm y gost net ar gyfer datblygiad yr M4 - gan restru fesul eitem gyfanswm costau’r datblygiad ynghyd â’r costau dirwyn i ben ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill, namyn unrhyw elw a wnaed o werthu’r eiddo a gaffaelwyd, incwm arall neu gostau a adenillwyd.

·         Copïau o Adroddiad Dewisiadau Amgen a awgrymwyd gan Wrthwynebwyr ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd (Mawrth 2017)

·         Dadansoddiad o'r gwaith twnelu arfaethedig o dan Lefelau Gwent, sut y cafodd y costau hyn eu meincnodi, a pha ganran oeddent o gostau cyffredinol y dewisiadau eraill

·         Yr amserlen ar gyfer gwaredu'r eiddo sydd ym meddiant Llywodraeth Cymru

 

 

(15.00 - 16.30)

5.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-20-19 Papur 3 – Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Alan Brace –Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Helen Arthur - Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

5.2 Cytunodd Dr Andrew Goodall y byddai yn:

·         Rhoi'r manylion o'r ymarfer recriwtio allanol diweddar i benodi Cyfarwyddwr Trawsnewid BIPBC

·         Rhoi disgrifiad, ynghyd ag enghreifftiau, o'r hyn sydd wedi cael ei ariannu fel rhan o'r Gronfa Drawsnewid

5.3 Oherwydd cyfyngiadau amser, dywedodd y Cadeirydd y byddai'n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda nifer o gwestiynau am y defnydd o staff asiantaeth yn GIG Cymru.

 

(16.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 7 & 8

Cofnodion:

6.1 Cytunwyd ar y cynnig a oedd hefyd yn cynnwys y cyfarfod ar 16 Medi 2019.

 

(16.30 - 16.45)

7.

Ffordd liniaru'r M4: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.45 - 17.00)

8.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.