Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 182(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 6 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiwn 2 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.20 Gofynnwyd y 6 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler
Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Prif Weinidog Mick Antoniw (Pontypridd): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r
effaith a gaiff pleidlais Senedd y DU ar gytundeb Brexit Llywodraeth y DU ar 15
Ionawr 2019 ar Gymru? Gofyn i Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth: Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn
â dyfodol Wylfa Newydd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gofyn i’r Prif Weinidog Mick Antoniw
(Pontypridd): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r
effaith a gaiff pleidlais Senedd y DU ar gytundeb Brexit Llywodraeth y DU ar 15
Ionawr 2019 ar Gymru? Gofyn i Weinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth: Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn
â dyfodol Wylfa Newydd? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.38 Gwnaeth Vikki Howells
ddatganiad am - Gwerthfawrogi Cymwysterau Galwedigaethol – nodi lansio Deuddegfed
Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol ddydd Mercher 16 Ionawr. |
|||||||||
Cynigion o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am
15.40 Cynigion
o dan Reol Sefydlog 17.14 i ethol Aelodau i Bwyllgorau NDM6922
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carwyn Jones
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle
Lee Waters (Llafur). NDM6923
Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Jack Sargeant
(Llafur). NDM6924
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Huw Irranca-Davies
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn
lle Jane Hutt (Llafur). NDM6925
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn
lle Vikki Howells (Llafur). NDM6926
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Julie Morgan
(Llafur). NDM6927
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn
lle Jayne Bryant (Llafur). NDM6928
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jane
Hutt (Llafur). NDM6929
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jenny
Rathbone (Llafur). NDM6930
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carwyn Jones
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn
lle Jayne Bryant (Llafur). NDM6931
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Huw Irranca-Davies (Llafur) yn
aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Jack
Sargeant (Llafur). NDM6932
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle
Julie Morgan (Llafur). NDM6933
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Rees
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle
Rhianon Passmore (Llafur). NDM6934
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle David Rees (Llafur). NDM6935
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur) yn aelod
o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Jane Hutt (Llafur). NDM6936
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Reckless
(Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle
Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig). NDM6938
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant
(Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Lee Waters (Llafur). Derbyniwyd y cynigion yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.40 NDM6937 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mohammad Asghar
(Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau yn lle Sian Gwenllian (Plaid Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 NDM6913
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i
Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog
30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol
(Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn
Statudol a gafodd ei osod
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018. Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15:40 NDM6913 Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i
Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog
30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol
(Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn
Statudol a gafodd ei osod
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) NDM6920
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion
cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru). Gosodwyd y Bil
Awtistiaeth (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2018. Dogfennau Ategol
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.55 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Awtistiaeth (Cymru). Gosodwyd Bil Awtistiaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad
ar 13 Gorffennaf 2018. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Tân mewn Adeiladau Uchel Iawn (sector preifat) NDM6917
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Diogelwch tân mewn adeiladau
uchel iawn', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2018. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno
ar 9 Ionawr 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.02 NDM6917
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau,
'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16
Tachwedd 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Brexit Heb Gytundeb NDM6918
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw
amgylchiadau. 2.
Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn
cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael
yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y
ffaith bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn negyddu canlyniad y
refferendwm yn sylweddol, drwy gadw’r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i
bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu hefyd o unrhyw lais
ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd. 2. Yn cymeradwyo
ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac o dan delerau Sefydliad Masnach
y Byd, er mwyn bodloni dymuniadau pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn
bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd. 3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adferiad sofraniaeth
genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Draft
Agreement on the withdrawal of the United Kingdom of Great Britain and Northern
Ireland from the European Union and the European Atomic Energy Community
(Saesneg yn unig) [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio rhoi
canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar
waith. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.38 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6918 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwrthod ymadawiad
â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau. 2. Yn galw ar y Prif
Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull
ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd
heb gytundeb.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.25 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6914
Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Contract ar gyfer
gwell cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.27 NDM6914 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Contract ar gyfer
gwell cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle. |