Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd y Dirprwy Lywydd a Darren Millar eu hymddiheuriadau, gan eu bod yn cynrychioli'r Cynulliad yng Nghynhadledd BIPA yn Llundain.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i gofnodion diwygiedig gael eu dosbarthu er mwyn cytuno arnynt.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018 -

·         Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20 (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) gohiriwyd tan 28 Tachwedd

Dydd Mercher 21 Tachwedd 2018 -

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Creu'r Diwylliant Cywir (60 munud)

·         Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

LCM ar y Bil Ifori

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes fod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn wedi'i threfnu ar gyfer 6 Tachwedd a chytunodd, y tro yma, nad oes digon o amser i bwyllgor graffu arno'n llawn. 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cais gan y Pwyllgor Cyllid i drefnu cyfarfod ychwanegol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

5.2

Cais gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Senedd@Aberystwyth

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

5.3

Dyrannu llefydd ar bwyllgorau a chadeiryddion rhwng grwpiau

Cofnodion:

Yn dilyn y drafodaeth yn y cyfarfod blaenorol, nododd y Llywydd ei bod am drafod a phenderfynu ar y mater dyrannu cadeiryddion ar wahân i'r drefn i alw ar arweinwyr a llefarwyr. 

 

Ar ôl pleidlais, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gynnig ailddyrannu Cadeiryddiaeth Pwyllgor Deisebau o UKIP i'r Ceidwadwyr Cymreig. Fodd bynnag, cytunodd y Rheolwyr Busnes i beidio â chyflwyno cynnig am y tro - er mwyn caniatáu trafodaethau rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig ynghylch y posibilrwydd o ailddyrannu cadeiryddion eraill pwyllgorau.

 

O ran galw ar arweinwyr a llefarwyr, dywedodd y Llywydd unwaith eto y byddai'n cael eu harwain gan farn mwyafrif y Pwyllgor Busnes o ran y drefn y cânt eu galw. Barn y mwyafrif ymysg y Rheolwyr Busnes oedd na ddylai'r Pwyllgor Busnes geisio pennu sut mae'r Llywydd yn defnyddio ei braint yn y fath fodd, ac felly ymrwymodd y Llywydd i gyflwyno papur yn adolygu holl agweddau ar gwestiynau'r arweinwyr a llefarwyr ar ôl hanner tymor.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gymryd enwebiadau i ethol Cadeirydd newydd y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn fory.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i newid dyraniad amser y gwrthbleidiau o 2:2:1 i 6:5:2.