Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 165(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ ar Prif Chwip yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd Arweinydd y Tŷ gwestiynau ar ran y Prif Weinidog.

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.43

(45 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.29

(45 munud)

5.

Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fand Eang

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.05

(45 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Perfformiad Ailgylchu Cymru, Adeiladu Sylfeini Economi Gylchol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

(60 munud)

7.

Dadl: Diwygio'r Gwasanaeth Prawf

NDM6831 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion ar gyfer Diwygio Gwasanaethau Prawf yng Nghymru.

Dogfen Ategol

Strengthening probation, building confidence (Saseneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM yng Nghymru yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddo eisoes yng Nghymru drwy ei gyfarwyddiaeth carchardai a phrofiannaeth sefydledig, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac adeiladu ar bartneriaethau lleol presennol.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Yn cytuno â Chymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf bod preifateiddio gwasanaethau prawf wedi bod yn fethiant.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru er mwyn creu gwasanaeth prawf a gaiff ei gynnal yn gyhoeddus sy'n gwasanaethu buddiannau ein cymunedau.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6831 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion ar gyfer Diwygio Gwasanaethau Prawf yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM yng Nghymru yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddo eisoes yng Nghymru drwy ei gyfarwyddiaeth carchardai a phrofiannaeth sefydledig, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac adeiladu ar bartneriaethau lleol presennol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

7

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno â Chymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf bod preifateiddio gwasanaethau prawf wedi bod yn fethiant

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

10

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru er mwyn creu gwasanaeth prawf a gaiff ei gynnal yn gyhoeddus sy'n gwasanaethu buddiannau ein cymunedau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

14

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6831 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion ar gyfer Diwygio Gwasanaethau Prawf yng Nghymru.

Yn nodi y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM yng Nghymru yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddo eisoes yng Nghymru drwy ei gyfarwyddiaeth carchardai a phrofiannaeth sefydledig, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac adeiladu ar bartneriaethau lleol presennol.

Yn cytuno â Chymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf bod preifateiddio gwasanaethau prawf wedi bod yn fethiant.

Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru er mwyn creu gwasanaeth prawf a gaiff ei gynnal yn gyhoeddus sy'n gwasanaethu buddiannau ein cymunedau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

14

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 18.17 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: