Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cyllideb Ddrafft 2019-20 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllideb Ddrafft 2019-20 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

(09.00-11.00)

3.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolau Cyllid

Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllid

 

Papur 1 – Cynnig y Gyllideb ar gyfer Ail Gyllideb Atodol 2018-19

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolau Cyllid; a Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllid.

 

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfodydd ar 20 Chwefror a 7 Mawrth 2019.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00-11.20)

5.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.20-11.30)

6.

Ail gyllideb atodol 2018-19 – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Memorandwm Esboniadol

Papur 2 – Ail gyllideb atodol 2018-19 – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Memorandwm Esboniadol

Papur 3 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – 14 Ionawr 2019

Papur 4 – Llythyr gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 17 Ionawr 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch ei ail gyllideb atodol ar gyfer 2018-19: Memorandwm Esboniadol.