Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

Estynnodd y Cadeirydd bob cydymdeimlad ar ran y Pwyllgor i deulu a ffrindiau'r diweddar Steffan Lewis AC a fu farw ar 11 Ionawr 2019, a gwahoddodd y Pwyllgor i gymryd ennyd o amser i fyfyrio'n dawel.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa asesiad a wnaed o effaith bosibl cynnydd mewn allyriadau o gerbydau ar hyd ffyrdd lleol pe bai Cyffordd 41 yn cael ei chau'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac a gasglwyd y data perthnasol ar allyriadau fel rhan o'r cyfnod prawf pan gaewyd y gyffordd yn flaenorol.

 

 

2.2

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o fanylion am y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysbytai o dan y Rhaglen Gwella Bywydau, blaenoriaethau Grŵp Cynghori'r Gweinidog, a gofyn am farn y Llywodraeth am ba mor werthfawr y byddai gwneud hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol i staff ysbytai; a
  • cheisio rhagor o wybodaeth am ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar gynigion i wneud hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol i'r holl staff iechyd a gofal yn Lloegr.

 

 

2.3

P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach o ran y ddeiseb.

 

2.4

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n gynghorydd lleol ac mae wedi ymwneud ag achosion unigol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at:

o   Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar y ddeiseb, rhagor o wybodaeth am yr argymhellion perthnasol a wnaeth yn Adroddiad Blynyddol 2017/18 ac ymateb Llywodraeth Cymru, a'i barn am alwad y deisebydd am leoedd lle gall plant fynd i ddianc rhag camdriniaeth rywiol; a'r

o   Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa gyfleusterau sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer diogelu plant sy'n rhoi gwybod am gamdriniaeth rywiol ac yn dianc rhagddi;

o   Gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a yw'r adolygiad o wasanaethau cynghori a sefydlwyd gan y Prif Weinidog blaenorol yn parhau.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • gofyn am wybodaeth ychwanegol o ran y gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig am absenoldeb, gan gynnwys am nifer y dirwyon a roddwyd a'r symiau dan sylw; a
  • pharhau i gadw llygad ar y mater ac ystyried y ddeiseb eto pan gyhoeddir y fframwaith presenoldeb ysgol diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad yn nes ymlaen yn 2019.

 

 

3.2

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • gofyn am wybodaeth ychwanegol o ran y gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig am absenoldeb, gan gynnwys am nifer y dirwyon a roddwyd a'r symiau dan sylw; a pharhau i gadw llygad ar y mater ac ystyried y ddeiseb eto pan gyhoeddir y fframwaith presenoldeb ysgol diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad yn nes ymlaen yn 2019.

 

 

3.3

P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg er mwyn:

  • gofyn beth yw bwriad Llywodraeth Cymru mewn amgylchiadau pan na fydd awdurdodau lleol yn dilyn gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion; a
  • gofyn am eglurhad ynghylch pa bwerau sydd ganddi i ymyrryd mewn penderfyniadau ynghylch cau ysgolion, gan gynnwys pa bryd, ac o dan ba amgylchiadau, y mae'n gallu ymyrryd.

 

 

 

3.4

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

mae wedi gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

o   ofyn am ymateb i'r cwestiynau pellach a ofynnwyd gan y deisebwyr;

o   gofyn iddi egluro pam nad yw'n meddwl ar hyn o bryd y byddai'n addas cael trefniant sector cyhoeddus rhanbarthol neu leol o ran darparu athrawon cyflenwi; a

  • gofyn am nodyn cyfreithiol ar bwerau Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion neu awdurdodau lleol i gyflogi staff cyflenwi yn uniongyrchol.

 

 

3.5

P-05-848 Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil yr ymateb diamwys a gafwyd gan y Gweinidog Addysg a'r ffaith ei bod hi'n debyg nad oes gobaith gwirioneddol o newid yr agwedd hon ar bolisi cyllido myfyrwyr.

 

 

3.6

P-04-648 Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig ar y Polisi Echdynnu Petrolewm a chytunodd i ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gadarnhau bod y Pwyllgor wedi deall yn gywir y byddai unrhyw gais newydd am drwydded i echdynnu petrolewm yn cael ei 'alw i mewn' gan Lywodraeth Cymru pe bai'r awdurdod lleol perthnasol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

 

3.7

P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Janet Finch Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Bu'n gweithio ym maes gwerthu anifeiliaid anwes yn y gorffennol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am bapur briffio ar y gwahaniaethau rhwng y rheoliadau ar werthu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru a Lloegr.

 

 

3.8

P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Tafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb am fod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu peidio ag ymestyn unrhyw brydlesi ar gyfer hawliau saethu ffesantod ar ôl iddynt ddod i ben ym mis Mawrth 2019, yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.  Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am longyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 

3.9

P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am ymateb i'r awgrym y dylid datganoli’r pwerau dros barthau lle na chaniateir i yrwyr adael i'w injan droi'n ddiangen i awdurdodau lleol, a'r pryderon a godwyd nad oes gan awdurdodau lleol ddigon o adnoddau i wneud gwaith monitro a gwella digonol o ran ansawdd aer lleol; ac
  • ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ofyn am ei barn ar y materion a godwyd yn y ddeiseb a pha bwerau sydd ganddi i fynd i'r afael ag effaith llygredd aer ar blant.

 

 

3.10

P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i'w hanfon at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn gofyn am ei barn ar y materion a godwyd, a gofyn am gopi o'r adolygiad ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt yng Nghymru.

 

 

3.11

P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid ar gyfer chwarae yng nghyd-destun y gyllideb ar gyfer 2019/20; a
  • Chwarae Cymru i ofyn am ei farn ar y mater a godwyd yn y ddeiseb, gwybodaeth am ei adolygiadau o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a Chynlluniau Gweithredu, ac am ei ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y deisebwyr ynglŷn â'i ymgyrch gymdeithasol.

 

 

3.12

P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i drafod eu pryderon ynghylch cynigion yn ymwneud ag Ysbyty Tywysog Philip yn fanylach.

 

 

3.13

P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:

  • a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngu neu atal gweithio trawsffiniol pe bai'n penderfynu peidio â sefydlu un awdurdod trwyddedu cenedlaethol yn dilyn yr ymgynghoriad; a
  • phe bai awdurdod trwyddedu cenedlaethol yn cael ei sefydlu, a fyddai'n rheoli nifer y tacsis a cherbydau llogi preifat sy'n gweithredu mewn ardal benodol, ac os felly sut.

 

 

3.14

P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:

  • a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngu neu atal gweithio trawsffiniol pe bai'n penderfynu peidio â sefydlu un awdurdod trwyddedu cenedlaethol yn dilyn yr ymgynghoriad; a
  • phe bai awdurdod trwyddedu cenedlaethol yn cael ei sefydlu, a fyddai'n rheoli nifer y tacsis a cherbydau llogi preifat sy'n gweithredu mewn ardal benodol, ac os felly sut.

 

 

3.15

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi defnyddio gwasanaeth FNF Both Parents Matter Cymru yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Arweinydd y Tŷ ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at Cymru Ddiogelach i ofyn am ei ymateb i'r pryderon a godwyd dros ei ddull gweithredu o ran 'sgrinio' dioddefwyr sy'n ddynion; ac
  • aros i'r canllawiau comisiynu rhanbarthol gael eu cyhoeddi cyn ystyried y ddeiseb eto.