Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

2.2

P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4 a thrafod y ddwy ddeiseb gyda'i gilydd yn y dyfodol;

·         rhannu'r sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth;

  • parhau i fonitro'r ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu cynhwysfawr ar y mater hwn gan yr ymchwiliad cyhoeddus ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal dadl lawn ar y mater cyn gwneud penderfyniad; a
  • thrafod y ddeiseb eto unwaith y bydd unrhyw ddadleuon wedi'u cynnal.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i lunio adroddiad sy'n canolbwyntio ar fynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn argyfwng, ac i ddefnyddio'r adroddiad hwn fel sail ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol.

 

3.2

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Bu'n ddefnyddiwr gwasanaethau Both Parents Matter ac yn wirfoddolwr dros y mudiad; ac

mae'r deisebydd yn gweithio iddo dros dro ar hyn o bryd.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan CAFCASS Cymru a chytunodd i:

 

·         ofyn barn y deisebydd ar y wybodaeth a gafwyd gan CAFCASS Cymru;

·         ysgrifennu yn ôl at CAFCASS Cymru i ofyn bod copi o'r canllawiau ymarfer yn cael ei roi i'r Pwyllgor pan fyddant ar eu ffurf derfynol, ac i amlinellu'r cyfleoedd hyfforddi a datblygu a ddarparwyd i ymarferwyr CAFCASS Cymru sy'n ymdrin ag ymddygiadau dieithrio; ac

·         ystyried gofyn am ragor o wybodaeth gan sefydliadau eraill yn y maes hwn.

 

3.3

P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at Vertex Pharmaceuticals i'w hannog i wneud cyflwyniad i GIG Cymru neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ar drefniadau penodol i sicrhau bod Orkambi ar gael i gleifion yng Nghymru, naill ai fel rhan o gynllun peilot cychwynnol neu ar sail barhaus, a'r amserlen arfaethedig ar gyfer gwneud hyn, neu am resymau'r cwmni dros beidio â chymryd y camau hyn; ac

·         aros am y camau gweithredu gan y Pwyllgor Dethol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn San Steffan ynghylch ymchwiliad posibl i argaeledd Orkambi.

 

3.4

P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ailadrodd y cais am yr amserlen debygol ar gyfer penderfynu ar fuddion Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a'u cyfathrebu, a gofyn iddo roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o'r cymorth ariannol i fuddiolwyr unwaith y bydd buddion y cynllun wedi'u pennu.

 

 

 

3.5

P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y bwrdd iechyd i:

·         ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau ar gyfer newid gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, gan gynnwys amserlenni a gwaith i ymgysylltu â chymunedau lleol yn y dyfodol; a

·         gofyn am sicrwydd y bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau yn ystod y gwaith o ddatblygu ysbyty newydd ac ni fydd gwasanaethau'n cael eu tynnu oddi ar Ysbyty Llwynhelyg cyn bod ysbyty newydd yn agor.

 

3.6

P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor hanes y ddeiseb a chytunodd i'w chau, o ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio ers y cysylltiad diwethaf â'r deisebydd a'r cynnig blaenorol a wnaed gan Gyngor Caerdydd i ddwyn y mater hwn yn ei flaen yn lleol.

 

 

3.7

P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Sir Gâr ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y deisebwyr bellach yn fodlon â'r sefyllfa a'r cynnydd a wnaed wrth annog awdurdodau lleol yng Nghymru i fabwysiadu polisi sganio am ficrosglodion.

 

3.8

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chytunodd i:

 

·         rannu manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Cyllid;

  • monitro'r gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer trethi yn y maes hwn, gan gynnwys Strategaeth Adnoddau a Gwastraff Llywodraeth y DU sydd yn yr arfaeth; a
  • dychwelyd at y ddeiseb hon a deisebau eraill ynghylch plastigau untro unwaith y bydd gan y Pwyllgor ragor o wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd ar y pwnc hwn.

 

 

3.9

P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebwyr a chytunodd i:

 

·         anfon sylwadau ychwanegol y deisebwyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a gofyn iddi ymateb i'r pwyntiau a godwyd a rhoi gwybod am y camau posibl y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd; a

·         gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r sylwadau hyn a'r adroddiad diweddar gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd, ystyried trefnu dadl yn ystod amser y Llywodraeth ar ddatblygu ynni gwyrdd a chefnogaeth i'r gwaith hwn.

 

 

3.10

P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd.  Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y byddai'r deisebau sy'n dod i law, a barn trigolion lleol, yn cael eu hystyried yn ystod y broses o adolygu'r terfyn cyflymder.  Wrth wneud hynny, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y deisebydd i egluro'r rhesymau dros hyn ac i egluro na all y Pwyllgor Deisebau ei hun wneud y newid y gofynnwyd amdano yn uniongyrchol.

 

 

3.11

P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd.  Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am esboniad manylach ynghylch argaeledd cerbydau, gan ofyn a yw Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob dull posibl i gael gafael ar gerbydau ychwanegol i wella gwasanaethau ledled Cymru.

 

 

4.

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad gan y Pwyllgor

4.1

P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w adroddiad a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 

5.

Papur i’w nodi

5.1

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Papur i’w nodi: Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at y Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

(09:45)

6.

Sesiwn dystiolaeth – P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Cyfoeth Naturiol Cymru:

 

John Hogg   -        Pennaeth Gweithrediadau, Canol De Cymru

Tim England-       Noddwr Prosiect

Gavin Jones -        Rheolwr Prosiect

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Hogg, Tim England, Gavin Jones a Gareth O'Shea o Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Dywedodd staff Cyfoeth Naturiol Cymru y byddent yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y rhagolygon llifogydd sy'n gysylltiedig â Nant y Rhath.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 8 a 9

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

8.

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol – P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn y cyfarfod arfaethedig rhwng y rhanddeiliaid perthnasol.

 

9.

Deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur a thrafododd y Pwyllgor gynnig i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y broses ddeisebu yn y dyfodol.