Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC a Nick Ramsay AC. Roedd Darren Millar AC yn bresennol fel dirprwy.

1.3        Llongyfarchodd y Cadeirydd dros dro Nick Ramsay AC ar enedigaeth ddiweddar ei fab.

 

(13.30 - 13.40)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunwyd y byddai angen eglurhad pellach gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ynghylch ei ffigurau absenoldeb oherwydd salwch.

 

2.1

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad (14 Tachwedd 2018)

2.2

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gwybodaeth ychwanegol gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (15 Tachwedd 2018)

2.3

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (22 Tachwedd 2018)

2.4

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (22 Tachwedd 2018)

(13.40 - 15.00)

3.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-32-18 Papur 1 – Papur gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-32-18 Papur 2 - Llythyr oddi wrth Tai Cymunedol Cymru

PAC(5)-32-18 Papur 3 - Llythyr oddi wrth Cymorth Cymru

 

Tracey Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Jo-Anne Daniels – Cyfarwyddwr, Cymunedau & Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru

John Howells – Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'u hymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi; a John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru.

 

3.2 Cytunodd Tracey Burke i:

·         anfon nodyn yn egluro'r gyllideb ar gyfer y dull dwy grant ar gyfer 2019-20,  ac yn egluro lle y dyrannwyd y £5 miliwn a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer y cynnig gofal plant;

·         gwirio sut y mae adborth ynghylch safbwyntiau awdurdodau lleol yn deillio o'r gwerthusiad interim wedi'i rannu â phob awdurdod lleol;

·         cael trafodaeth gyda'r gwerthuswyr ynghylch a fyddai modd enwi'r saith awdurdod lleol sy'n rhan o'r cynllun peilot, a hynny er mwyn rhoi cyfle i awdurdodau lleol nad ydynt yn awdurdodau braenaru drafod y dulliau a ddefnyddiwyd;

·         anfon rhestr o'r holl grantiau sy'n gysylltiedig â'r dull dau grant ynghyd â'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer 2019-20; a

·         rhoi cyngor ar y paratoadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â'r effaith y gallai Brexit ei chael ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.

 

3.3 Yn ogystal, cytunodd Tracey Burke i gysylltu â Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl argymhellion yn deillio o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi.

 

(15.00 - 15.05)

4.

Maes Awyr Caerdydd: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am weithredu argymhellion y Pwyllgor

PAC(5)-32-18 Papur 4 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol a chytunodd i:

·         geisio eglurhad pellach ar nifer o bwyntiau; a

·         threfnu sesiwn dystiolaeth ar gyfer tymor yr haf 2019 i graffu ar berfformiad y maes awyr, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer gwaith datblygu yn y tymor canolig a'r tymor hir.

 

(15.05)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 6, 7 & 8

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05 - 15.15)

6.

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn nodi eu casgliadau ac er mwyn trefnu sesiwn dystiolaeth ar gyfer tymor yr haf 2019 at ddibenion craffu ar werthusiad terfynol y Rhaglen Ariannu Hyblyg.

 

(15:15 - 15:40)

7.

Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Blaenraglen waith

PAC(5)-32-18 Papur 5 – Blaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau flaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cytunwyd y dylid trafod y cynigion a dychwelyd i'r eitem hon yn y cyfarfod ar 14 Ionawr 2019.

 

(15.40 - 16.00)

8.

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: trafod y papur cwmpasu

PAC(5)-32-18 Papur 6 – Papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i wneud gwaith ymgysylltu yn unol â'r hyn a fanylwyd yn y papur ar 21 Ionawr 2019.