Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Bydd Mark Reckless yn holi'r Prif Weinidog yn ystod Cwestiynau'r Arweinwyr
yn absenoldeb Neil Hamilton. Bydd cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i roi amser i'r ddadl ar adroddiad
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar oblygiadau gadael yr
Undeb Ewropeaidd i Gymru, a gafodd ei aildrefnu o'r wythnos ddiwethaf, i'w
gynnal ddydd Mawrth, gan roi amser i gynnal Dadl Fer Dawn Bowden ddydd Mercher. Cwtogodd y Llywodraeth yr amser a neilltuwyd ar gyfer trafodion Cyfnod 3 o
dair awr i ddwy awr. Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Treth
Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yn digwydd yn
ystod trafodion Cyfnod 3. Cwestiynodd y Rheolwyr Busnes amseriad y ddadl ar Barciau Cenedlaethol o
ystyried nad yw adroddiad Tirweddau’r Dyfodol ar gael. Cytunodd Arweinydd y
Tŷ i ystyried y mater ymhellach. Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o
fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Dydd Mercher Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ynghylch tanio Erthygl 50 (45
munud). Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher yn
cael ei gynnal cyn y Dadleuon Byr. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 10 Mai 2017
-
|
|
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - Dewis Cynnig Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r meini prawf ar gyfer dethol Cynigion
Deddfwriaethol yr Aelodau ar gyfer dadl. Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl: Dydd Mercher 5 Ebrill
Simon Thomas (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar leihau gwastraff. 2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai lleihau gwastraff drwy roi gofyniad ar gynhyrchwyr a manwerthwyr
bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar y cynnig
deddfwriaethol ar gyfer 17 Mai 2017. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Effaith Deddf Cymru 2017 ar Reolau Sefydlog y Cynulliad Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur ar effaith Deddf Cymru 2017 ar Reolau
Sefydlog y Cynulliad o ran cyfranogiad yr Ysgrifenyddion Gwladol yn y trafodion,
yn arbennig ynghylch y ddadl ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU.
Trafododd y Pwyllgor hefyd sut y gellid codi proffil dadl Llywodraeth Cymru ar
y rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol, a chytunwyd y dylai swyddogion y
Comisiwn a Llywodraeth Cymru drafod yr opsiynau i’w hystyried ymhellach. Cafodd y Reolwyr Busnes eu gwahodd i ymgynghori gyda'u grwpiau ar y
materion hyn, a dychwelyd at y papur mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Unrhyw fater arall Bu i'r llywydd atgoffa'r Rheolwyr Busnes bod disgwyl i'r Aelodau sydd wedi
gwneud cais i siarad am eitemau busnes gyrraedd cyn dechrau'r eitem honno os
ydynt am gael eu galw. Cyfrifoldeb yr Aelodau yw sicrhau eu bod yn ymwybodol os
yw busnes yn mynd rhagddo'n gynt na'r disgwyl. |