Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Caroline Jones AC.

1.2

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth.

2.

Diwallu ein hanghenion o ran adeiladau yn y dyfodol

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd mewn ymateb i faterion, ymholiadau a chwestiynau penodol a godwyd ganddynt yn y cyfarfod blaenorol.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i ddiystyru opsiwn yr ystyriwyd nad oedd yn ffordd ymarferol ac effeithiol o fodloni anghenion llety.

 

Nododd y Comisiynwyr feysydd eraill ar gyfer ystyriaeth fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

3.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Dim, hyd y gwyddys.