Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 361KB) Gweld fel HTML
(207KB) |
||
(09.15 - 09.30) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Sesiwn friffio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru Cofnodion: 1.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac fe drafodwyd
materion cyfrinachol cyfredol. |
|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 2.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Dirprwyodd Mark Reckless AC ar ei ran. 2.3 Datganodd Mark
Reckless AC fuddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig. |
|
(09.30 - 10.45) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-11-17 Papur 1 – Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16 PAC(5)-11-17 Papur 2 - Archwilydd
Cyffredinol Cymru Memorandwm Dr Emyr Roberts – Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru Kevin Ingram - Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol, Cyfoeth
Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Dr Emyr Roberts, y Prif Weithredwr, a
Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol
Cyfoeth Naturiol Cymru o ran Cyfrifon
Cyfoeth Naturiol Blynyddol Cymru 2015-16. 3.2 Cytunodd Dr Roberts i: · Roi eglurhad am yr amrywiad yn y pris a dalwyd am goed yng Nghymru, ynghyd
â phrisiau cyfredol y farchnad · Darparu cost y
cyngor cyfreithiol mewn perthynas ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol · Paratoi nodyn
ar yr arfer da a fabwysiadwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rheoli salwch
staff 3.3 Yn ogystal, nododd y Pwyllgor ei fod am gael gweld yr adroddiad sydd ar
ddod gan Reolwr Archwilio Mewnol a Sicrwydd Risg Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr
adolygiad o risgiau rheoli ynghyd â chopi o'r achos busnes a baratowyd ar gyfer
y contract i ymateb i ledaeniad y clefyd coed P. ramorum. |
|
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.45 - 11.00) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |