Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 572KB) Gweld fel HTML
(352KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran. 1.3 Datganodd Neil
McEvoy fuddiant fel Cynghorydd ar Gyngor Dinas Caerdydd. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (9 Mawrth 2017) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli Meddyginiaethau: Llythyr oddi wrth Boots (9 Mawrth 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 15.30) |
Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn Dystiolaeth 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-10-17 Papur 1 – Memorandwm Archwilydd Cyffredinol
Cymru PAC(5)-10-17 Papur 2 – Papur briffio i gyd-fynd â
Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-10-17 Papur 3 – Canlyniadau arolwg addysg a dysgu
proffesiynol athrawon PAC(5)-10-17 Papur 4 – Llythyr gan NASUWT Hannah Woodhouse – Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd
Consortiwm Canolbarth y De (CSC) Nick Batchelar – Cyfarwyddwr Arweiniol (Dinas a Sir Caerdydd) Gwasanaeth
Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC) Debbie Harteveld – Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg
De-ddwyrain Cymru (EAS) Dermot McChrystal – Cyfarwyddwr Arweiniol (Cyngor Torfaen) Gwasanaeth Cyrhaeddiad
Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS) Betsan O'Connor – Rheolwr Gyfarwyddwr, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) Barry Rees -
Is-Gyfarwyddwr Arweiniol (Ceredigion), Ein Rhanbarth
ar Waith (ERW) Arwyn Thomas – Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a
Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Woodhouse, Rheolwr
Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd
Consortiwm Canolbarth y De (CSC); Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Arweiniol (Dinas
a Sir Caerdydd) Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC);
Debbie Harteveld, Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg
De-ddwyrain Cymru (EAS); Dermot McChrysta, Cyfarwyddwr Arweiniol (Cyngor
Torfaen) Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS); Betsan
O'Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW); Barry Rees,
Is-Gyfarwyddwr Arweiniol (Ceredigion), Ein Rhanbarth ar Waith (ERW); ac Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella
Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE) fel rhan o'i ymchwiliad i Gonsortia
Addysg Rhanbarthol. |
|
(15.40 - 16.30) |
Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn Dystiolaeth 2 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Simon Brown - Cyfarwyddwr Strategol, Estyn Clive Phillips - Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Estyn Mark Campion – Arolygydd EM, Estyn Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol,
Clive Phillips, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Mark Campion, Arolygydd Ei Mawrhydi,
Estyn, fel rhan o'i ymchwiliad i Gonsortia
Addysg Rhanbarthol. 4.2 Cytunodd Simon Brown i anfon copi o'r arolwg canfyddiad presennol y mae
Estyn yn ymgymryd ag ef ynghyd â dadansoddiad o'r canlyniadau pan fyddant ar
gael. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.30 - 17.00) |
Consortia Addysg Rhanbarthol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a dderbyniwyd. |