Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Lesley Griffiths a Darren Millar. Roedd Jane Hutt a Russell
George yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwyon. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
Ar ôl i
gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ymddiswyddo wedi iddynt gael eu penodi i rolau
Gweinidogol, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddion y pwyllgorau hynny
barhau i gael eu dyrannu i grŵp Llafur. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y
byddai enwebiadau'n cael eu gwahodd ar ôl y Cwestiynau i'r Prif Weinidog
heddiw, gyda chanlyniad unrhyw bleidleisiau sydd eu hangen yn cael eu cyhoeddi
cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dydd
Mercher Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn: · Cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet · Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig · Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5
munud) ·
Cynnig i
benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd (5 munud) Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Jane Hutt fel aelod o’r Pwyllgor
Busnes yn lle Lesley Griffiths. Yn dilyn ei
ymddiswyddiad, cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd y grŵp Llafur
i gynnig Aelod yn lle Ken Skates ar Gomisiwn y Senedd ac i gynnig gael ei
gyflwyno i'w ystyried ddydd Mercher. Gwnaeth y
Llywydd atgoffa Rheolwyr Busnes am yr amseriadau ar gyfer cyfraniadau siarad yn
ystod dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd
Mercher. · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen
busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
23 Ebrill 2024 · Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
(45 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r
afael â fepio ymhlith pobl ifanc (30 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Blaenoriaethau economaidd (30 munud) · Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau trafnidiaeth (30
munud) · · Dydd
Mercher 24 Ebrill 2024 · Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth · Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Dydd
Mercher 1 Mai 2024 · Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg · Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 -
Dydd Mercher 8 Mai 2024 – ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Sut y mae'n rhaid
i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar
sail rhywedd (60 munud) ·
Dadl ar
Ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (30 munud)
|
|
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol
i’w drafod ar 24 Ebrill: Janet
Finch-Saunders NNDM8504 Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i
atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru. 2. Yn nodi
mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau i
wella diogeledd bwyd yng Nghymru. |
|
Amserlen ar gyfer Cwestiynau Llafar Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes yr
amserlen newydd ar gyfer cwestiynau llafar. Ymgynghorodd y Llywydd â'r Rheolwyr
Busnes ynghylch a ddylid galw ar lefarwyr i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r
Darpar Gwnsler Cyffredinol gan ystyried cyfrifoldebau newydd y gweinidogion.
Yng ngoleuni'r safbwyntiau a fynegwyd, nododd y Llywydd y byddai'n parhau i alw
ar lefarwyr i ofyn cwestiynau heb rybudd ac i barhau i adolygu'r trefniadau. |
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y
cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y
Bil Dioddefwyr a Charcharorion ei osod ar 15 Ebrill 2024, ar ôl cael ei
gyfeirio yn ei gyfarfod blaenorol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda
dyddiad cau o 29 Ebrill 2024 ar gyfer cyflwyno adroddiad. |
|
Papur i'w nodi - Llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch yr Aelodau sy'n gyfrifol am Filiau'r Llywodraeth Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith weithdrefnol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
ddiweddariad ar amserlennu arfaethedig ei waith gweithdrefnol. |