Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/04/2024 - Y Pwyllgor Biliau Diwygio
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol
yn unol â Rheol Sefydlog 17.49. Datganodd David Rees AS fod aelodau o'r Pwyllgor yn
aelodau o'r pleidiau gwleidyddol sy'n rhoi tystiolaeth o dan eitem 5. Datganodd Heledd Fychan AS fuddiant perthnasol ar wahân
ei bod yn briod â Geraint Day, a fyddai'n rhoi tystiolaeth o dan eitem 5. |
|
(09.15) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid at Gomisiwn y Senedd ynghylch goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 18 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip at y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 19 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr at y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 22 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(09.15-10.15) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Yr Athro Laura
McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Yr Athro Rosie
Campbell, Aelod o'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Yr Athro Sarah Childs,
Aelod o'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Dogfen ategol Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Panel Arbenigol ar
Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Cytunodd yr Athro Sarah Childs i ddarparu rhagor o
wybodaeth am drais yn erbyn menywod ym myd gwleidyddiaeth a'r strategaethau y
gall seneddwyr, darpar ymgeiswyr a sefydliadau eu defnyddio i fynd i'r afael â
hynny. |
|
(10.30-11.30) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau diwygio etholiadol Hannah
Stevens, Prif Weithredwr, Elect Her Jemima Olchawski,
Prif Weithredwr, Cymdeithas Fawcett Dogfennau
ategol Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Elect Her a
Chymdeithas Fawcett. |
|
(11.45-12.45) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda Phanel Pleidiau Seneddol Cymru y Comisiwn Etholiadol Geraint Day,
Dirprwy Brif Weithredwr, Plaid Cymru Tom James,
Cyfarwyddwr, Ceidwadwyr Cymreig Joanna McIntyre,
Ysgrifennydd Cyffredinol, Llafur Cymru Dogfennau
ategol Papur 2
Tystiolaeth ysgrifenedig: Llafur Cymru [Saesneg yn unig] Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Banel
Pleidiau Seneddol Cymru y Comisiwn Etholiadol. |
|
(13.30-14.30) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion Yr Athro Meryl
Kenny, Prifysgol Caeredin Yr Athro Mona
Lena Krook, Rutgers University Yr Athro Rainbow
Murray, Brifysgol Queen Mary yn Llundain Dr Larissa
Peixoto Vale Gomes, Prifysgol Caeredin Dogfennau
ategol Papur 3 Tystiolaeth
ysgrifenedig: Yr Athro Meryl Kenny [Saesneg yn unig] Papur 4
Tystiolaeth ysgrifenedig: Dr Larissa Peixoto Vale Gomes [Saesneg yn unig] Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Meryl Kenny,
yr Athro Mona Lena Krook a Dr Larissa Peixoto Vale Gomes. |
|
(14.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.30-14.45) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |