Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/05/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Diolchodd y Cadeirydd i Jayne Bryant AS, a oedd wedi
cadeirio'r Pwyllgor ers 2021, a dymunodd y gorau iddi yn ei rôl newydd fel y
Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar. 1.3 Diolchodd y Cadeirydd hefyd i James Evans AS, Ken
Skates AS a Laura Jones AS am eu cyfraniad fel aelodau o’r Pwyllgor. Croesawodd
y Cadeirydd Aelodau newydd y Pwyllgor, sef Hefin David AS, Gareth Davies AS,
Tom Gifford AS a Jack Sargeant AS, gan nodi ei bod yn edrych ymlaen at weithio
gyda phob un ohonynt. 1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 6 ac eitem 8 ar agenda’r cyfarfod hwn, ac o’r cyfarfodydd cyfan ar 15 Mai ac 23 Mai Cofnodion: 2.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.00 - 09.30) |
Gweithredu diwygiadau addysg – diweddariad ar weithgareddau ymgysylltu â theuluoedd Cofnodion: 3.1 Cafodd yr Aelodau ddiweddariad llafar ar y
gweithgareddau ymgysylltu sydd wedi’i cynnal ar gyfer y trydydd sesiwn
gysylltu. |
|
(09.30 - 10.45) |
Gweithredu diwygiadau addysg – sesiwn dystiolaeth Lynne Neagle AS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Hannah Wharf,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru Lloyd Hopkin, Dirprwy
Gyfarwyddwr Cwricwlwm ac Asesu, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg. 4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu manylion
i’r Pwyllgor ynghylch y cyllid sydd wedi’i wario hyd yn hyn ar weithredu’r
system anghenion dysgu ychwanegol newydd, a’r swm o gyllid sydd wedi’i ddyrannu
yn y gyllideb ar gyfer 2024-25. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd
Cabinet, gan ofyn y cwestiynau na chawsant eu gofyn yn ystod y cyfarfod. |
|
(10.45) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Comisiynydd y Gymraeg: Addysg ôl-orfodol a’r Gymraeg Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 Dogfennau ategol: |
||
P-06-1406 Cosbau ariannol i Awdurdodau Addysg Lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer ADY Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: trafod diwygio radical Dogfennau ategol: |
||
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Arolygiaeth Gofal Cymru: Craffu blynyddol Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu diwygiadau addysg Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
Llythrennedd iechyd Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
Rheoliadau Hawliadau Iechyd (Dirymu) 2024 Dogfennau ategol: |
||
(10.45 - 11.00) |
Gweithredu diwygiadau addysg – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod
y sesiwn flaenorol. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog er
mwyn gofyn cwestiynau dilynol ynghylch rhai materion a godwyd yn ystod y
sesiwn, a chytunodd i gyhoeddi adroddiad interim. |
|
Adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion [Eitem wedi'i gohirio i'w thrafod mewn cyfarfod yn y dyfodol] Yr Athro Dylan E
Jones, Awdur yr Adolygiad a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod
Dewi Sant Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg |
||
(11.00 - 11.15) |
Adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion – trafod aildrefnu'r eitem Cofnodion: 8.1 Cytunodd yr Aelodau i drafod y broses o aildrefnu'r
eitem hon, yn dilyn datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos nesaf ar
gyflawni blaenoriaethau addysg Cymru. |